Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Lywydd, cafodd ein strategaeth ryngwladol ei llunio yng nghyd-destun Brexit. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod yn rhaid inni weithio hyd yn oed yn galetach i gynnal proffil ac enw da Cymru yn y byd. Nawr yn fwy nag erioed mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i godi proffil rhyngwladol Cymru, tyfu ein heconomi drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad, ac fel mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu, sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang.
Ni allai neb fod wedi rhagweld beth fyddai'n digwydd ychydig wythnosau ar ôl i'n strategaeth ryngwladol gael ei chyhoeddi ym mis Ionawr. Dechreuodd COVID-19 ennill ei blwy ym mis Chwefror, ac wrth gwrs mae'r pandemig wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflawniad ein huchelgeisiau rhyngwladol, ond rydym wedi gwneud defnydd cadarnhaol o'n rhwydweithiau tramor o hyd, gan gadw mewn cysylltiad â Llywodraethau ym mhob cwr o'r byd a chasglu gwybodaeth hanfodol am eu dulliau o fynd i'r afael â'r feirws. Fe wnaethant weithio i nodi ffynonellau o gyfarpar diogelu personol yn y dyddiau cynnar, pan oedd cyflenwadau'n brin. Chwaraeodd ein swyddfeydd yn Tsieina ran allweddol yn y gwaith o sicrhau bod cyfarpar gweithgynhyrchu masgiau llawfeddygol yn cael eu darparu i gwmni yng Nghaerdydd sy'n cynhyrchu hyd at filiwn o fasgiau wyneb y dydd i weithwyr allweddol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Aeth ein rhaglen Cymru ac Affrica ati'n gyflym i gyhoeddi 26 o grantiau a ganolbwyntiai ar gymorth COVID-19.
Symudwyd ein rhaglenni rhyngwladol ar-lein a defnyddiwyd cysylltiadau a nodwyd yn y strategaeth ryngwladol i ddatblygu uchelgeisiau ar y cyd, nid yn unig i ganolbwyntio ar yr argyfwng uniongyrchol, ond i feithrin cadernid yn y dyfodol ac ailadeiladu ein heconomïau. Hyd yn oed yn nyfnder yr argyfwng, rydym wedi cynnal cyfarfodydd rhithwir a chyfarfodydd wyneb yn wyneb â llysgenhadon o Japan, yr Almaen, yr Undeb Ewropeaidd, Canada ac eraill.
Heddiw, Lywydd, rydym yn cyhoeddi pedwar cynllun gweithredu a ddeilliodd o'r strategaeth ryngwladol, wedi’u ffurfio gan gyd-destun y pandemig byd-eang ac sy'n adlewyrchu ein hymgysylltiad â ffrindiau ledled y byd. Hoffwn gofnodi fy niolch i Eluned Morgan am yr holl waith a wnaeth ar y strategaeth a'r cynlluniau tra oedd yn Weinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mae'r dogfennau'n ymdrin â diplomyddiaeth gyhoeddus a chymell tawel, cysylltiadau a rhwydweithiau rhanbarthol, Cymru ac Affrica, a Chymry ar wasgar, ac maent yn deyrnged i'r ddawn a'r ymrwymiad a gyfrannodd Eluned i'r gwaith hwnnw.
Mae ein cynllun diplomyddiaeth gyhoeddus a chymell tawel yn nodi sut y bydd Cymru'n gwella ein proffil byd-eang. Mae'n nodi'r cyfraniad byd-eang y gallwn ei wneud fel cenedl gyfrifol, gan weithio'n rhyngwladol gyda phartneriaid ar lesiant, cynaliadwyedd, addysg ieuenctid, diwylliant, chwaraeon, gwyddoniaeth a hyrwyddo'r Gymraeg. Mae'n gwneud cysylltiadau â chefnogi economi Cymru, cryfhau masnach a thwristiaeth, fel y gwnaethom yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd yn Japan. Ynghyd â'n rhaglen Cymru ac Affrica, mae'n ymateb i'r materion diweddar a amlygwyd gan ymgyrch Black Lives Matter i hyrwyddo ethos o degwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae cynllun gweithredu Cymru ac Affrica hefyd yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn Affrica Is-Sahara ac yma yng Nghymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, a hynny mewn dau faes yn arbennig: newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, lle byddwn yn plannu 25 miliwn o goed yn Uganda erbyn 2025, ac yn ail, hyrwyddo Cymru fel cenedl deg drwy gefnogi masnach deg a grymuso menywod.
Ar ôl llofnodi datganiad o fwriad gyda Llywodraeth Quebec yn gynharach eleni, mae ein cynllun perthnasoedd rhanbarthol sy’n cael blaenoriaeth yn canolbwyntio ar adeiladu a chryfhau cysylltiadau rhanbarthol allweddol, yn enwedig gyda thri rhanbarth Ewropeaidd—Llydaw, Gwlad y Basg a Fflandrys—yn ogystal â rhwydweithiau Ewropeaidd a rhyngwladol.