3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhoi'r Strategaeth Ryngwladol ar Waith

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:21, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Paul Davies am y cwestiynau hynny? Fe wnaf fy ngorau i fynd i'r afael â nifer ohonynt. Gofynnodd am rai enghreifftiau o'r ffordd y mae ein cysylltiadau mewn rhannau eraill o'r byd wedi bod o fantais i ni yn ystod y pandemig hwn. Wel, nodais yn fy sylwadau agoriadol y ffordd y gallem ddefnyddio ein cysylltiadau yn Tsieina i sicrhau offer pwysig iawn a phrin i gwmni yma yng Nghaerdydd, sydd wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad mawr mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol, nid yn unig i Gymru ond i'r Deyrnas Unedig gyfan.

Gwn y bydd yr Aelod yn cofio'r awyrennau a ddaeth i Faes Awyr Caerdydd yng nghamau cynnar y pandemig, gan ddod â chyflenwadau o gyfarpar diogelu personol o rannau eraill o'r byd. Cawsom y cyflenwadau hynny—cawsom hwy i Gymru—oherwydd y presenoldeb sydd gennym yma ar lawr gwlad. Cawsom rodd o rai masgiau pwysig iawn o Fiet-nam yn gynnar, pan oeddent yn brin iawn. Cawsom hwy o Fiet-nam oherwydd yr ymweliad a wnaeth y Gweinidog addysg â Fiet-nam a'r cysylltiadau sydd wedi datblygu ers hynny â'r wlad honno ym maes addysg. Oherwydd y berthynas honno â Chymru, roeddem yn gallu sicrhau'r cyflenwad pwysig hwnnw.

Yn fwy cyffredinol, drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a thrwy gysylltiadau ein prif swyddog meddygol, rydym wedi cael cyfres o drafodaethau gyda gwledydd eraill sydd wedi cael profiad gwahanol, a phrofiad mwy llwyddiannus mewn ffordd, o ymdrin â'r coronafeirws na llawer o wledydd Ewrop a'r wlad hon—felly, trafodaethau gyda De Korea a thrafodaethau gyda Seland Newydd, er enghraifft. Rydym yn ffodus iawn fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gorff sy'n cael ei gydnabod yn dda iawn yn rhyngwladol fel ffynhonnell arbenigedd. Yn gyfnewid am hynny, rydym wedi gallu dysgu oddi wrth eraill.

Gofynnodd Mr Davies am y trefniadau broceriaeth sydd gennym a'r cyfleoedd rydym wedi'u cael o ganlyniad. Wel, Lywydd, gadewch i mi ganolbwyntio ar un o'r pedair perthynas ranbarthol sy'n cael blaenoriaeth a nodwyd gennym yn ein dogfennau, sef ein perthynas â Gwlad y Basg. Cefais lythyr heddiw gan Arlywydd Gwlad y Basg yn ein gwahodd i ymweld â Gwlad y Basg eto cyn gynted ag y gallwn yn 2021, ac i fynd â thaith fasnach i Wlad y Basg.

Roedd Gwlad y Basg wedi nodi Cymru fel un o'i phum cyrchfan ryngwladol â blaenoriaeth cyn i'n dogfennau ein hunain gael eu cyhoeddi. O ganlyniad i hynny, rydym wedi gallu dod o hyd i gyfleoedd i weithio gyda Mondragon, cyfres gydweithredol fwyaf y byd o fusnesau. Byddwn wedi elwa drwy ddod â Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles, y cwmni gweithgynhyrchu trenau, i Gasnewydd. Ymwelais â CAF fy hun pan oeddwn yng Ngwlad y Basg yn trafod materion trethiant gyda Llywodraeth Gwlad y Basg. Mae gennym gysylltiadau seiberddiogelwch â Gwlad y Basg; mae gennym gysylltiadau gwyddorau bywyd; mae gennym gysylltiadau bwyd-amaeth â Gwlad y Basg. A llwyddasom mewn ffordd gwbl wahanol, Lywydd, i gael trafodaeth gyda swyddogion Llywodraeth Gwlad y Basg yn gynharach yr hydref hwn am y ffordd roeddent yn gallu cynnal eu hetholiadau rhanbarthol ym mis Mehefin eleni ar anterth y pandemig coronafeirws, gan feddwl ymlaen at ein hetholiadau ein hunain ym mis Mai y flwyddyn nesaf, a chanfod sut y gallwn gynnal yr etholiadau hynny mewn ffyrdd sy'n diogelu pobl rhag y feirws a pharhau i gynyddu cyfranogiad pobl.

Felly, gallwn ailadrodd y rhestr honno mewn perthynas â'r rhanbarthau eraill rydym yn canolbwyntio arnynt, ond rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi syniad o'r manteision cadarn iawn sy'n deillio o'r cyfleoedd a ddaw i Gymru pan fyddwch yn sefydlu'r cysylltiadau hyn, o ran cyfnewid diwylliannol, o ran cysylltiadau economaidd, ac o ran cysylltiadau hirsefydlog.