3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhoi'r Strategaeth Ryngwladol ar Waith

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 11 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:31, 11 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am y datganiad hwn ar gyflawniad y strategaeth ryngwladol? Roeddwn am ganu clodydd Gwlad y Basg hefyd, ond o ystyried yr amser, nid wyf am ddweud cymaint, heblaw am grybwyll, yn amlwg, fod yr iaith Fasgeg, y Wyddeleg a'r Gymraeg bob amser mewn cystadleuaeth gyfeillgar o ran pa un yw'r iaith fyw hynaf yn Ewrop. Rydym mewn cystadleuaeth gyfeillgar drwy'r amser; dylid annog pob math o gystadlaethau rhyngwladol cyfeillgar o’r fath.

Nawr, yn amlwg, rydym wedi trafod y strategaeth ryngwladol o'r blaen. A gaf fi ddiolch i Eluned Morgan am yr holl gyfarfodydd ynghylch hynny yn ei rôl flaenorol? Rydym bellach yn symud ymlaen i gyflawni yn hytrach na disgrifio yn unig—mor bwysig yn y cyfnod cythryblus hwn. Felly, ceir un neu ddau o faterion penodol. O ran ymagwedd Cymru tuag fasnach a brand Cymru-Wales, mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn gwthio brand Cymru-Wales. Yn amlwg, gyda Brexit ar y gorwel, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn mabwysiadu ymagwedd Gymreig unigryw tuag at fasnachu, rhywbeth sy’n cael ei golli'n rhy aml o lawer yn strategaeth Invest in GREAT Britain Llywodraeth y DU. Felly, a gaf fi ofyn pa rôl y mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd busnesau bach a chanolig Cymru yn ei chwarae yn y strategaeth ryngwladol hon ar gyfer Cymru?

Gan symud ymlaen at y Cymry ar wasgar a’r rhan o'r strategaeth hon sy’n ymwneud ag ymgysylltu â Chymry ar wasgar, fe’i disgrifiwyd, fel y nododd y Prif Weinidog, fel ased a danddefnyddiwyd. Rwy’n sicr yn cytuno â hynny, yn sicr mewn perthynas ag Unol Daleithiau America. Credaf y bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod fy mab a fy ŵyr yn byw yn Oklahoma, fel oddeutu 2 filiwn o bobl eraill o dras Gymreig. Pan oeddwn allan yn yr Unol Daleithiau ddiwethaf, rwy'n cofio Llywodraethwr talaith Wisconsin yn arwain y dathliadau ar Ddydd Gŵyl Dewi i gydnabod cyfraniad 40,000 o drigolion Wisconsin—Wisconsin yn unig—a oedd o dras Gymreig. Gwnaed cryn dipyn o sioe o bopeth Cymreig ar 1 Mawrth. Nawr, flynyddoedd yn ôl, roedd 300 o gapeli Cymraeg eu hiaith yn Wisconsin. Cafodd Frank Lloyd Wright, y pensaer mawr ei fri, ei eni a'i fagu mewn teulu Cymraeg eu hiaith mewn cymuned wledig Gymraeg—nid yng Ngheredigion fel ei fam, ond yng nghefn gwlad Wisconsin.

Y gamp, felly, yw sut i droi hanes rhamantus yn rhagor o fasnach, gan ddefnyddio ein cysylltiadau hanesyddol. Yn ychwanegol at yr hyn a grybwyllir mewn cryn fanylder yn y dogfennau, mae gefeillio yn un ffordd. Rwyf wedi sôn am hyn o'r blaen wrth Eluned Morgan, ac yn amlwg, rydym wedi cael llawer o drefniadau gefeillio ffurfiol ac anffurfiol dros y blynyddoedd, yn cynnwys trefi a phentrefi, a dinasoedd, yn wir, yma yng Nghymru. Nawr, flwyddyn neu ddwy yn ôl, bu arweinwyr busnes o Oklahoma draw yma a chawsant gyfarfod ag Eluned Morgan a minnau, ac roeddent yn awyddus i greu cysylltiadau a mynd ar drywydd trefniadau gefeillio â Chymru—gefeilliodd Dinas Oklahoma â Chaerdydd, a gefeilliodd Tulsa, yr ail ddinas, ag Abertawe. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn rhagweld y bydd y Llywodraeth yn adeiladu ar gysylltiadau o'r fath wrth gyflawni’r strategaeth?

Gan ein bod yn trafod Cymry ar wasgar, yn amlwg, yn y ddogfennaeth, mae’r ymdrechion penodol ac wedi'u targedu i ymgysylltu â Chymry ar wasgar i’w croesawu’n fawr, ac rwy'n cydnabod y gwaith sy'n mynd rhagddo. Mae'n peri pryder i mi, serch hynny, fod Llywodraeth Cymru yn teimlo bod angen iddynt gontractio rhai o'r cyfrifoldebau i gyflawni'r rhwydwaith busnes Cymry ar wasgar a chynllun Cymry ar wasgar byd-eang i drydydd parti allanol. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai’n well pe bai’r cyfrifoldeb am ymgysylltu â'r Cymry ar wasgar o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, er mwyn denu pobl yn ôl i Gymru i weithio neu i ymweld, yn ogystal â'u galluogi i weithredu fel llysgenhadon yn eu gwledydd mabwysiedig? Gallech efelychu croeso adref Belfast, efallai.

Trof at un neu ddau o gwestiynau olaf, cyn imi gloi, ar fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r pwynt eisoes wedi'i wneud ynglŷn â datgoedwigo, ond mae hynny'n hanfodol bwysig. Mae cyfraniad Cymru i'r byd—. Mae pob un ohonom yn edrych tuag allan yn rhyngwladol. A ydych yn bwriadu cymryd camau, Brif Weinidog, ar ddatgoedwigo a chael gwared ar gynhyrchion mewn cadwyni cyflenwi byd-eang sy'n cael eu mewnforio i Gymru ac yn achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd mewn mannau eraill, megis y datgoedwigo sy'n gysylltiedig â chynhyrchu blawd ffa soia ar gyfer da byw a’r olew palmwydd a geir mewn eitemau cyffredin mewn archfarchnadoedd? Mae'n ymwneud â mwy na phlannu coed yn rhywle arall; mae’n ymwneud hefyd â'r hyn a wnawn gyda chynhyrchion niweidiol.

Mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â’r fasnach arfau. Mae'r cynlluniau gweithredu hefyd yn nodi bod Cymru yn anelu at ddod yn genedl noddfa, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau dynol, fel rydych wedi'i ddweud, a hyrwyddo heddwch a masnach foesegol—heddwch yn enwedig ar ddiwrnod fel hwn, 11 Tachwedd. Ym mis Medi 2019, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n adolygu presenoldeb Llywodraeth Cymru yn un o ffeiriau arfau mwyaf y byd. Felly, Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r adolygiad hwnnw o'ch presenoldeb mewn ffeiriau arfau, a rhoi gwybod inni hefyd sut y byddwch yn sicrhau nad yw strategaeth ryngwladol Cymru ac economi Cymru yn gyffredinol yn cyfrannu at wrthdaro byd-eang neu at y fasnach arfau, sy'n achosi dinistr i gymunedau mewn rhannau eraill o'r byd?