Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Wythnos yma, hoffwn dynnu sylw at lwyddiant arbennig Coleg Elidyr, sydd wedi'i leoli yn Rhandirmwyn ger Llanymddyfri. Eleni, mae Coleg Elidyr wedi ennill gwobr Tes fel darparwr arbenigol y flwyddyn am eu gwaith arbennig yn cynorthwyo unigolion gydag anghenion dysgu cymhleth.
Yn wreiddiol, roedd y coleg wedi sefydlu fel cymuned Camphill ar sail athroniaeth Karl König a Rudolf Steiner gydag ymrwymiad canolog fod pob un yn haeddu parch a chyfle cyfartal mewn bywyd. Mae'r cwricwlwm wedi esblygu ar sail rhaglen o weithgareddau sy'n gallu gwella lles a sicrhau cyfle am dwf personol.
Yn fwy diweddar, mae'r coleg wedi ehangu ei ddarpariaeth er mwyn cefnogi gwell annibyniaeth i'w ddysgwyr drwy'r rhaglen bywydau cynhwysol. Mae'r coleg wedi ennill clod gan gylchgrawn Tes am ei gwricwlwm amrywiol sydd yn darparu canlyniadau arbennig, gyda ffocws ar ddinasyddiaeth, sgiliau cartref, hunan-eiriolaeth, sgiliau hanfodol a llythrennedd digidol. Roedd ei broses o hunan-werthuso a'r lefel o ymgynghori gyda dysgwyr a'u teuluoedd a rhanddeiliaid eraill hefyd yn cael eu nodi fel ffactorau allweddol i ennill y wobr. Mae'r cyfleoedd am brofiad gwaith ymarferol uniongyrchol ar y campws yn sicrhau bod modd i'r disgyblion wneud ystod eang o bethau, o waith pensaer i gynhyrchu canhwyllau. Hoffwn estyn llongyfarchiadau gwresog i Goleg Elidyr ar eu llwyddiant a'u canmol am y gwaith arbennig sy'n cael ei wneud yno i weithio gyda phobl ifanc.