Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Fe ddechreuaf gyda Llyr, os yw hynny'n iawn. Diolch yn fawr am gydnabod, fel y gwnawn ni, fel y mae'r Pwyllgor Cyllid yn ei wneud, ein bod, drwy gydweithio, yn cael cyflwyniad mor gynyddol dryloyw o'r gyllideb ag sy'n bosibl. Rydym bob amser yn hapus i gymryd argymhellion ar sut i wneud hynny'n well. Efallai fod hynny'n rhywbeth roedd Mike yn cyfeirio ato ar y diwedd, ond collais ei gwestiwn olaf mewn gwirionedd—dof yn ôl at hynny.
Ie, fel yr eglurais yn fy nghyflwyniad agoriadol, rydym wedi gweithio'n galed iawn yma. Dechreuasom o ddim cyllideb i nodi'r hyn roedd angen inni wario arian arno, neu'r hyn roeddem yn credu y byddai angen i'r Comisiwn nesaf wario arian arno, ac fel arfer, mae swm sylweddol o'n costau'n eithaf—wyddoch chi, rydym eisoes wedi ymrwymo iddynt, gan ein gadael gydag isafswm o ddisgresiwn ynglŷn â lle gallwn fod yn arloesol, os mynnwch.
Y pwynt am y ffenestri, mae'n amlwg ein bod wedi tynnu sylw at hyn gyda chi o'r blaen, ac rydych chi'n llygad eich lle, Llyr, mae astudiaeth ddichonoldeb wedi'i gwneud ar hyn, ond yn anffodus, nid yw'r Comisiynwyr eu hunain wedi gweld honno eto, a chyn gynted ag y byddwn wedi gwneud hynny, mae'n amlwg y byddwn mewn sefyllfa i wneud yr adroddiadau addas i'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r hyn a ddywedant. Rydych chi'n iawn ei fod—. Nid yw'r astudiaeth ddichonoldeb ei hun mor ddrud â hynny, ond fe fydd y costau cyffredinol. Ond rwy'n credu ei bod yn werth inni gofio nad yw hyn yn ymwneud â chael ffenestri newydd yn unig; mae hyn, i raddau helaeth, yn ymwneud ag iechyd a diogelwch—mae rhai o'r ffenestri yn ymylu ar fod yn beryglus. Ond hefyd, mae gennym ymrwymiad, fel Senedd, i weithio tuag at ein nodau cynaliadwyedd, ac mae'n eithaf clir nad yw'r ffenestri sydd gennym ar hyn o bryd yn ein helpu i wneud hynny. Felly, mae mwy nag un rheswm dros newid y ffenestri, os mynnwch. Fodd bynnag, bydd yn gost fawr ac mae eich sylwadau ynglŷn ag a ddylai'r cyhoedd allu craffu ar hyn yn sicr wedi'u nodi, ac mae'n amlwg y byddwn yn mynd â hynny'n ôl i'r Comisiwn.
Y comisiynydd safonau—ie, credaf i chi gael ymddiheuriadau yn y Pwyllgor Cyllid am nad oedd yr adroddiad hwnnw'n barod, ac rydym yn ddiolchgar i chi am gydnabod mai blaenoriaethau COVID i bob pwrpas sydd wedi gwthio hynny i lawr y rhestr o bethau i'w gwneud. Ond byddwch yn sicr yn ei gael.
Gyda'r arbedion hirdymor, rhan o'r hyn a wnawn wrth gyflwyno'r gyllideb, ar ddechrau Comisiwn yn sicr, yw ceisio edrych ar draws y pum mlynedd, ond yn sicr y tair blynedd, a rhoi ffigurau dangosol o'r hyn y byddem yn disgwyl i gyllideb y flwyddyn nesaf ei gynnwys. Ac yn rhan o hynny ceir lefel o edrych ymlaen i weld pa arbedion y gallwn eu gwneud, neu'n anffodus, fel sy'n digwydd yn amlach, beth yw cost pethau. Ond er enghraifft—rydym wedi bod yn y cylch hwn o'r blaen—rydym yn edrych ymlaen ar hyn o bryd at weld rhai contractau'n dod i ben, ac at weld pwy sy'n cael y contract newydd, neu hyd yn oed os mai'r un unigolion ydynt—i weld a allwn wneud arbedion yno.
Credaf ichi sôn am y cynllun ymadael gwirfoddol. Rwy'n credu ein bod yn eithaf clir ar y dechrau fod hynny'n ymwneud ag ail-lunio'r gweithlu er mwyn ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r Comisiwn nawr, ac mae hynny'n cynnwys cyflwyno sgiliau newydd. Roedd modd cadw rhai aelodau o staff, wrth gwrs, gyda gwahanol fathau o hyfforddiant. Ond yn fwy arbennig—nid wyf ond yn sôn am hyn oherwydd eich bod wedi sôn am ymgysylltu ychydig yn nes ymlaen—mae'r olwg sydd ar y gyfarwyddiaeth honno nawr a'r hyn y mae'n ceisio'i wneud yn gwbl wahanol i'r hyn roeddem yn ei wneud o'r blaen, ac mae angen y sgiliau newydd arni i wneud hynny. Mae pob cyfarwyddiaeth yn cyd-fynd â'r tri nod strategol nawr, ac maent yr un mor bwysig.
Efallai fy mod wedi methu rhywbeth, felly ymddiheuriadau—. O, ie, y pwyllgorau—