Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, ac am yr adroddiad y mae wedi ei lunio. Mae'r pwyllgor o'r farn nad oes unrhyw rwystr i'r Senedd gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) ar 18 Mawrth. Cyflwynwyd Bil tebyg ym mis Mehefin 2019, a chytunwyd ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwnnw yn y Cyfarfod Llawn ym mis Gorffennaf y llynedd. Cwympodd y Bil hwnnw pan gafodd y Senedd ei gohirio. Bil byr, un pwrpas yw'r Bil newydd, a fydd yn lleihau'r rhwymedigaeth ardrethi ar gyfer toiledau cyhoeddus annibynnol i sero, o 1 Ebrill 2020. Oherwydd amseriad y Bil, bydd y newidiadau a gyflwynodd yn cael eu cymhwyso'n ôl-weithredol.
Mae'r darpariaethau yn berthnasol i bob toiled cyhoeddus annibynnol sydd ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio, ni waeth pwy sy'n berchen ar y cyfleusterau neu'n eu gweithredu. Bydd y Bil hefyd yn cynnig buddion iechyd cyhoeddus, trwy leihau costau cynnal ac felly lleihau'r risg y bydd toiledau cyhoeddus yn cael eu cau. Gallai cau toiledau gael effaith andwyol ar grwpiau fel pobl hŷn, pobl anabl a phobl â phlant ifanc. Gan y bydd hyn yn cyfrannu at ein hamcanion iechyd cyhoeddus yng Nghymru, cafodd darpariaethau ar gyfer Cymru eu cynnwys yn y Bil wrth eu cyflwyno.
Rwyf i'n credu bod y darpariaethau hyn wedi'u cynnwys o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Fodd bynnag, gan nad oes cyfrwng deddfwriaethol addas ar gael i wneud y newidiadau hyn yng Nghymru i'w gweithredu o fis Ebrill 2020, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn mewn Bil sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr. Felly, cynigiaf y cynnig a gofynnaf i'r Senedd ei gymeradwyo.