10. & 11. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:02 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 7:02, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion sydd ger ein bron ar gyfer y cyfresi perthnasol o reoliadau.

Cyflwynwyd y cyfnod atal byr gennym gan ein bod yn credu bod yn rhaid i ni weithredu yn gynnar ac yn bendant yn wyneb bygythiad gwirioneddol a chynyddol i iechyd y cyhoedd gan feirws a oedd yn lledaenu ar draws ein gwlad ac yn bygwth llethu ein GIG. Ni fyddwn yn gweld effaith lawn y cyfnod atal byr am wythnos neu ddwy arall, ond mae arwyddion calonogol ei fod wedi torri cadwyni trosglwyddo, gan arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion positif newydd. Mae hynny'n arbennig o glir mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion, fel Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful.

Fe wnaethom addewid i bobl Cymru y byddai'r cyfnod atal byr hwn yn llym ond yn fyr, ac mae hwnnw'n addewid a gadwyd gennym. Fe wnaethom addo hefyd y byddem ni'n dod allan o'r cyfnod atal byr gyda chyfres newydd o fesurau cenedlaethol a fyddai mor syml, teg a chlir ag sy'n bosibl. Mae cyfyngiadau cenedlaethol yn symlach ac yn haws i bobl eu dilyn, ond, fel y gwelsom, gall y coronafeirws gynyddu'n gyflym mewn ardal leol, ac, os gwna hynny, mae amrywiaeth o gamau lleol y gellid eu cymryd yn yr ardaloedd hynny.

Fodd bynnag, yr hyn sy'n bwysicach nag unrhyw reolau, rheoliadau na chanllawiau yw'r ffordd y mae pob un ohonom ni yn ymateb i'r feirws. Bydd ein cyfreithiau newydd yn llwyddiannus dim ond os byddwn ni i gyd yn gwneud ein gorau i leihau ein hamlygiad i'r feirws drwy gadw'r cysylltiadau a gawn â phobl eraill cyn lleied â phosibl gartref, yn y gwaith a phan fyddwn ni'n mynd allan. Dim ond hyn a hyn y gall unrhyw Lywodraeth ei wneud. Bydd ein hymdrech gyfathrebu yn parhau i ganolbwyntio ar ofyn i bobl feddwl yn ofalus am eu dewisiadau a'u gweithredoedd a'r canlyniadau a gaiff y rheini.

Fel gyda'r cyfyngiadau symud cyntaf, rydym ni wedi arfer dull gofalus, gan lacio'r cyfyngiadau yn raddol. Ni ddylai'r un ohonom ni fod eisiau colli yr hyn a fu'n anodd ei gyflawni yr ydym ni yn awr yn dechrau ei weld yn cael ei adlewyrchu yn sgil y cyfnod atal byr. Rydym ni'n parhau i geisio mynd ati'n gytbwys ac yn gyfartal i ymdrin â rheolau ar gwrdd â phobl o dan do, tynhau lle mae'n rhaid i ni wneud hynny, llacio lle y gallwn ni, fel y gall pobl mewn gwahanol amgylchiadau personol elwa. Nid yw hyn yn hawdd ac ni all gyd-fynd yn daclus â phob sefyllfa. Caiff dwy aelwyd bellach ffurfio cartref estynedig neu swigen. Gwyddom fod risg uchel o drosglwyddo pan fydd pobl ar eu mwyaf hamddenol ac yn y cartref. Buom yn gwrando ar bobl, yn enwedig pobl ifanc, a ddywedodd wrthym nad oedd y rheolau ar swigod aelwydydd bob amser yn gweithio iddyn nhw a bod cwrdd â phobl y tu allan i'w cartrefi yn bwysig i'w lles. Rydym, felly, wedi galluogi hyd at bedwar o bobl o wahanol aelwydydd i gyfarfod yn yr awyr agored mewn mannau a reolir fel tafarndai, bariau, caffis a bwytai. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni i gyd gofio mai uchafrif cyfreithiol yw hwn, nid rhif targed. Fel y dywedais i, rydym ni'n dibynnu ar y dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud ac yn gofyn i bobl ystyried y risgiau a chwrdd â chyn lleied â phosibl ac, os oes modd, i gwrdd â'r un bobl bob tro.

O ran gweithgareddau wedi'u trefnu, caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgarwch o dan do a hyd at 30 yn yr awyr agored, cyn belled â bod yr holl fesurau diogelwch COVID yn cael eu dilyn. Dylai hyn helpu pobl nad ydyn nhw'n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau o bell. Mae'r geiriau 'wedi'u trefnu' yn allweddol yn y fan yma, gan mai dim ond os yw corff cyfrifol fel pwyllgor rheoli canolfan gymunedol wedi cynnal asesiad risg ac wedi sefydlu'r holl fesurau lliniaru priodol y ceir cynnal gweithgareddau.

Newid arall yw nad oes unrhyw gyfyngiadau teithio y tu mewn i Gymru mwyach gan fod yr haint wedi ymwreiddio ledled y wlad. Ond yn ystod y cyfyngiadau symud am fis yn Lloegr, ni chaniateir teithio y tu allan i Gymru heb esgus rhesymol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru, ym mis Mehefin, wedi gwneud darpariaethau yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod yn rhaid i deithwyr sy'n dod i Gymru o wledydd a thiriogaethau penodol ynysu am 14 diwrnod a rhoi eu manylion cyswllt. Ers hynny, rydym, ynghyd â gwledydd eraill y DU, wedi adolygu a diwygio'r rhestr o wledydd a thiriogaethau eithriedig bob wythnos, ac rydym yn adolygu'r rheoliadau eu hunain bob 28 diwrnod. Mae'r cyfyngiad llymaf ar bobl o Ddenmarc, y gwrthodir iddyn nhw ddod i Gymru a'r DU bellach ar ôl darganfod math newydd o'r coronafeirws mewn mincod. Fel mesur rhagofalus, fe wnaethom ni arfer y dull mwyaf cyfyngol yn y DU—gofynion ynysu ar gyfer pobl a ddaeth yn ôl o Ddenmarc cyn y gwaharddiad.

Gan symud oddi wrth deithio i addysg, mae pob ysgol, coleg a phrifysgol wedi ailagor. Rydym ni wedi rhoi arweiniad a chymorth pellach i ysgolion ar ddarpariaeth dysgu gyfunol ac ar-lein ar gyfer dosbarthiadau neu grwpiau y mae angen iddyn nhw hunanynysu. Mae busnesau, cyfleusterau chwaraeon, amgueddfeydd a sinemâu i gyd wedi ailagor, fel y gwnaeth gwasanaethau awdurdodau lleol a mannau addoli. Mae'n hynod bwysig, serch hynny, bod pobl yn gweithio gartref pan fo hynny'n bosibl.

Rydym ni'n cydnabod yr effaith echrydus y mae'r feirws hwn yn parhau i'w chael ar economi Cymru. Mae'r ystadegau diweithdra a chynnyrch domestig gros diweddaraf, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn llwm. Dyna pam y gwnaethom ni weithredu pecyn sylweddol i fusnesau yn ystod y cyfnod atal byr. Fodd bynnag, yr hyn a fyddai'n eu helpu fwyaf a'r hyn y gallwn ni a hwythau i gyd helpu i'w gyflawni yw cyfnod o sefydlogrwydd lle gall busnesau fasnachu hyd at y Nadolig. Os gallwn ni gyflawni hyn, byddwn ni'n gweld llai o bobl yn mynd yn sâl a llai o deuluoedd yn colli anwyliaid. Ni all neb warantu na fydd angen cyfyngiadau llymach yn y dyfodol. Fodd bynnag, os byddwn ni i gyd yn chwarae ein rhan ac yn lleihau ein cysylltiadau, byddwn ni'n rhoi'r cyfle gorau i ni ein hunain gael tymor Nadolig cadarnhaol. Mae'r newyddion am y brechlyn yn galonogol, ond nid yw'n ateb ein holl broblemau. Bydd gennym ni fisoedd lawer cyn y gallwn ni  ddefnyddio brechlyn yn llwyddiannus ar draws y boblogaeth gyfan. Mae'r coronafeirws yn dal gyda ni; nid dyma'r amser i ni fynd yn ôl i normal a dadwneud yr holl waith caled yr ydym ni wedi ei gyflawni gyda'n gilydd yn ystod y cyfnod atal byr. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynigion sydd ger ein bron.