COVID-19 yng Nghasnewydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:13, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, cefais olwg ar ysbyty newydd y Faenor Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yr wythnos diwethaf. Fe'i hagorwyd yn swyddogol heddiw, ond cafwyd yr enedigaeth gyntaf yn ei ganolfan eni eisoes—merch fach, a anwyd yn briodol ddeuddydd yn ôl, ar ben-blwydd Aneurin Bevan. A wnewch chi gytuno â mi bod y cyfleuster hwn o'r radd flaenaf yn ychwanegiad i'w groesawu'n fawr at allu'r GIG i wasanaethu cenedlaethau i ddod, a bod ganddo swyddogaeth hanfodol i helpu i fynd i'r afael â COVID-19? Ac wrth gynorthwyo ymdrech rheng flaen y GIG yn erbyn y feirws, a wnewch chi ystyried yn ofalus gwell profion ar gyfer staff gofal cartref asymptomatig a gwell profion yn ein hysgolion uwchradd, a fyddai hefyd yn lleihau'r amser ysgol sy'n cael ei golli?