Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Prif Weinidog, hoffem ninnau hefyd, ar y meinciau hyn, fynegi ein llongyfarchiadau i—rieni Poppy, dyna yw ei henw rwy'n credu, a hoffem groesawu'r ysbyty hefyd, sydd, wrth gwrs, o fudd mawr i'm holl etholwyr ar draws Dwyrain De Cymru. Bu llawer o bryderon y mae pobl wedi bod yn anfon negeseuon ataf yn eu cylch yn ddiweddar, oherwydd mae meddygon wedi dweud eu bod nhw'n pryderu am y lefelau staffio yn yr ysbyty newydd ar gyfer pan fydd yn agor. Sut gallwch chi dawelu meddyliau’r llawr hwn heddiw, Prif Weinidog, y bydd digon o staff i ymdopi â'r galw pan fydd yr ysbyty yn agor ei ddrysau? Diolch.