Cysylltiadau Rhyngwladol

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Phrif Chwip – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:31, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dawn Bowden, am godi'r cwestiynau pwysig iawn yna. Ac, wrth gwrs, mae trosglwyddo grym yn heddychlon yn elfen hanfodol i unrhyw ddemocratiaeth, ac mae cyfnod pontio didrafferth hyd yn oed yn fwy hollbwysig, o ystyried yr oes sydd ohoni a'r angen i'r weinyddiaeth newydd baratoi ac ymateb i her coronafeirws. Wrth gwrs, cydnabuwyd a chefnogwyd yn eang bod ein Prif Weinidog wedi ysgrifennu yn ddiweddar i longyfarch y darpar Arlywydd Joe Biden, a'r darpar Dirprwy Arlywydd Kamala Harris. Ac rwy'n adleisio'r llongyfarchiadau hyn—rwy'n siŵr ein bod ni i gyd—ac yn enwedig y ffaith bod gan yr Unol Daleithiau y Dirprwy Arlywydd benywaidd cyntaf, a fydd hefyd y Dirprwy Arlywydd Asiaidd-Americanaidd ac Affricanaidd-Americanaidd cyntaf. Mae hwnnw'n ganlyniad enfawr, sydd wedi codi gobaith mawr, yn enwedig ymhlith pobl America, ond ledled y byd. Ond rwy'n credu bod y ffaith eu bod nhw wedi sefyll, yr Arlywydd a'r Dirprwy Arlywydd, ar lwyfan o ymladd dros gydraddoldeb, mynd i'r afael â hiliaeth a hefyd mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac ymladd coronafeirws yn adleisio'n gryf dros ben yr hyn sy'n annwyl i Gymru, ac rwyf i'n rhagweld, wrth gwrs, y bydd ein perthynas gyda'r Unol Daleithiau yn un a fydd yn ffynnu.

Ond, o ran ail ran eich cwestiwn, mae gen i ofn fy mod i wedi fy llenwi â llawer llai o optimistiaeth, oherwydd mae'n rhaid i'n pwyslais ni, a phwyslais Llywodraeth y DU, fod ar y cyfnod anhygoel o anodd hwn yr ydym ni ynddo. Yng Nghymru, rydym ni'n canolbwyntio fel erioed ar iechyd a llesiant y genedl. Ni fydd ein sylw yn cael ei dynnu oddi wrth hynny, ac ni ddylai Llywodraeth y DU ganiatáu i'w sylw gael ei dynnu ychwaith. Ond mae'r newyddion dros nos am sylwadau Boris Johnson ar ddatganoli, y pwyntiau a adleisiwyd yn y Siambr hon y prynhawn yma, wir yn dangos y diffyg ymgysylltu ar bontio yr UE yn arbennig, ond hefyd ymgysylltu ar sut yr ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd fel pedair gwlad i fynd i'r afael â coronafeirws; mae'n ein gwneud ni'n fwy pryderus nag erioed. Anhrefn yn San Steffan yn gwaethygu, byddwn i'n dweud, ar ôl Cummings, pan fo angen cydweithio arnom ni, pan fo angen parch arnom ni tuag at Gymru, y Senedd, a'r pwerau yr ydym ni'n eu harfer yn y fan yma i gadw Cymru yn ddiogel.