Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Phrif Chwip – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â mi bod y sector gwirfoddol a'r awdurdodau lleol yn cydweithio wedi bod yn gefnogol dros ben o'n cymunedau yn ystod pandemig COVID-19. A heb eu cefnogaeth nhw, byddai llawer o bobl wedi cael anawsterau mawr yn cael drwy'r cyfnod anodd hwn. Ond rydym ni'n dal i fwrw ymlaen â mwy o angen wrth i ni wynebu misoedd y gaeaf, ac mae hunanynysu wedi creu unigrwydd a sefyllfaoedd o angen dybryd i lawer o bobl, ac felly bydd yn ofynnol i'r sector gwirfoddol gamu ymlaen unwaith eto dros y cyfnod hwn. Ond daw cyllid yn her ddifrifol yn y sefyllfa hon. Pa ffrydiau ariannu ydych chi'n edrych arnyn nhw i sicrhau y gall y sefydliadau hynny gael yr arian i sicrhau eu bod nhw'n gallu darparu'r sector gwirfoddol sydd ei angen i ddiwallu anghenion COVID-19?