Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf i un newid i fusnes yr wythnos hon: bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn gwneud datganiad llafar am Tata Steel yn syth ar ôl y datganiad a chyhoeddiad busnes hwn. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.