Datganiad gan y Llywydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:29 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:29, 24 Tachwedd 2020

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda. Dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.