9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 (2019-2020) ac Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2019-2020)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:40, 24 Tachwedd 2020

Mae'n gywir i ddweud bod COVID wedi newid ein cymdeithas dros nos, ond dim ond erbyn pythefnos olaf cyfnod adrodd yr adroddiad, felly fedrith COVID ddim esgusodi na chuddio'r diffyg cynnydd amlwg sydd i'w weld yn record y Llywodraeth. Ac un enghraifft wnaeth neidio allan ataf fi'n syth oedd datganiad ysgubol yn yr adroddiad, wrth gyfeirio at prosiect 2050, fod pennaeth prosiect 2050 bellach wedi'i benodi ac yn ei swydd, yn dilyn oedi yn sgil COVID-19. Ond nid COVID oedd y bai am yr oedi. Cyhoeddi'r un swydd newydd yma yn y gwasanaeth sifil oedd cyhoeddiad mawr y Gweinidog yn ôl yn Eisteddfod Llanrwst yn Awst 2019, a oedd i fod i hoelio sylw ar weithredu'r strategaeth. Roeddwn i'n gweld pethau'n mynd yn araf deg, ac ysgrifennais i at yr Ysgrifennydd Parhaol ym mis Ionawr 2020 yn gofyn am ddiweddariad. Siomedig iawn, iawn oedd yr arafwch hwn—nodweddiadol, efallai—a collwyd llawer gormod o amser efo'r penodiad ac felly efo'r strategaeth.

Mae strategaethau hirdymor yn bwysig, ond mae'r prawf o'u gweithrediad o flwyddyn i flwyddyn yn bwysicach fyth, a'r prawf pennaf bod dim lot o gynnydd yn digwydd ydy pan fo Gweinidog yn bodloni ar wneud cyhoeddiadau yn hytrach na gallu tystio cyflawniad go iawn. Un fenter o'r fath a gyhoeddwyd oedd Helo Blod, gwasanaeth cymorth a chyfieithu i fusnesau bach a'r trydydd sector—cyhoeddiad sy'n swnio'n dda a menter digon clodwiw mor belled ag y mae hi'n mynd, ond cwbl, cwbl annigonol os ydyn ni o ddifri am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dim ond camau breision yn y gweithlu, y gyfraith a'r gyfundrefn addysg fydd yn sicrhau hynny. Mae gan addysg rôl hollol allweddol wrth greu'r miliwn, ond mae'r adroddiad yn dweud bod llai o athrawon cynradd Cymraeg yn y cyfnod dan sylw nag oedd hyd yn oed yn 2015-16—llai. Mae hynny'n anhygoel. Hyfforddwyd 11 o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg—11—sydd 367 o athrawon yn brin o'r targed. Mae hi'n argyfyngus, ac wrth edrych ymlaen, mae COVID yn bygwth yr hyn sydd gennym ni yn barod. Ond beth rydym ni'n ei gael? Helo Blod, ta-ta rhaglen cyflwyno safonau. Helo Blod, ond ta-ta i'r Urdd. Helo Blod, ond ta-ta cymunedau hyfyw Cymraeg lle mae ail gartrefi allan o reolaeth. Dwi'n siwr eich bod chi'n clywed y coegni a'r rhwystredigaeth yn fy llais i, a dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny.

Mae yna le i gydnabod ambell lygedyn o obaith. Diolch i bwyllgorau cyfrifon cyhoeddus a diwylliant y Senedd, fe lwyddwyd i ddal traed yr Ysgrifennydd Parhaol i'r tân, ac fe gafwyd ymrwymiad a chynllun gweithredu i wneud y Gymraeg yn iaith weinyddol gweithlu'r Llywodraeth dros amser. Cafwyd dyfarniad y Barnwr Fraser yn y llys gweinyddol yn ddiweddar, sy'n cadarnhau, i bob pwrpas, hawl pawb i barhau ar lwybr addysg Cymraeg. A llygedyn arall o obaith ydy gwaith manwl Comisiynydd y Gymraeg, sy'n dangos lle mae deddfwriaeth ar y cwricwlwm yn rhoi cyfle gwirioneddol i wneud cynnydd go iawn ar y continwwm ieithyddol, os ddown ni â chod statudol i symud y sefyllfa ymlaen. A dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn fodlon manteisio ar y cyfle, wrth ymateb i'r ddadl, i roi ei chefnogaeth i waith ardderchog y comisiynydd o ran Bil y cwricwlwm. Ond beth sy'n bwysig am y llygedyn o obaith yma, y tri pheth yma dwi wedi sôn amdanyn nhw, ydy nid y Llywodraeth sydd wedi bod yn gyfrifol am ddod â nhw ymlaen. Mae'r pethau yma wedi digwydd er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd o. Mae angen symud ymlaen.

'Ymlaen tua'r dyfodol y mae edrych, nid am yn ôl' meddai'r Gweinidog, a fydd hi ddim yn syndod ichi fy mod i'n hapus iawn i edrych ymlaen at ddyfodol newydd i'r gwaith o adfywio'r Gymraeg, ac mae gen i a Phlaid Cymru syniadau clir iawn am y cyfeiriad newydd, yr arweiniad newydd a'r egni newydd sydd eu hangen ar gyfer yr ymdrechion hynny. Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dyrchafu statws uned y Gymraeg yn gyfarwyddiaeth drawslywodraethol bwerus. Mi fyddem ni'n cyflwyno Deddf addysg Gymraeg i'w gwneud yn wirioneddol iaith i bawb. Mi fyddem ni'n achub ein sefydliadau cenedlaethol sy'n gwneud cymaint dros yr iaith ac yn creu dyfodol cynaliadwy i holl gymunedau Cymru. Diolch.