Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Pan fydd Llywodraeth yn ceisio gweithredu polisi, mae gwahanol ddulliau y mae modd eu defnyddio yn yr achos hwnnw. Weithiau mae'n bosibl rhannu'r rhain yn ddwy elfen sylfaenol, sef y foronen a'r ffon. Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi bod yn eithaf cyson yn argymell y foronen yn hytrach na'r ffon wrth hyrwyddo'r ymgyrch o hybu defnydd y Gymraeg, ac rwyf wedi fy nghalonogi, ar ôl darllen adroddiad 'Cymraeg 2050', ei bod yn ymddangos mai dyna yw ei dull sylfaenol o hyd.
Rwy'n credu bod annog grwpiau a sefydliadau i dyfu'r defnydd o'r Gymraeg yn fesur llawer gwell na dulliau gorfodi, felly byddwn i'n gyffredinol yn cymeradwyo'r dulliau y mae'r Gweinidog yn eu dilyn, sydd wedi'u hamlinellu yn adroddiad 'Cymraeg 2050' eleni, drwy gefnogi'r gwahanol fentrau a nodwyd. Barn Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yw ein bod ni, yn gyffredinol, yn cefnogi'r mesurau cadarnhaol hyn i annog twf y Gymraeg. Weithiau, nid yw gwneud rhywbeth yn orfodol yn gweithio mewn gwirionedd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu ychydig flynyddoedd yn ôl i wneud addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn orfodol hyd at 16 oed. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi bod yn ddadleuol. Tybed a yw'n wirioneddol wedi llwyddo i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg i unrhyw lefel ystyrlon? Gan hynny, rwy'n golygu cynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd.
Fy sylw i fy hun, yn seiliedig ar brofiad amrywiol berthnasau a pherthnasau ffrindiau sydd wedi mynd drwy'r system ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw bod gennym ni garfan sylweddol o bobl ifanc o hyd sy'n weddol ddifater am y Gymraeg a hefyd yn weddol anwybodus ohoni, er iddyn nhw ei hastudio mewn theori hyd at 16 oed. Felly, ar un ystyr, ychydig sydd wedi newid ers i mi fod yn yr ysgol 30 mlynedd yn ôl. Ar ôl gweld y ffigurau a nodwyd, nid wyf yn siŵr a yw cyfran y bobl ifanc sy'n defnyddio'r Gymraeg yn sylweddol wedi cynyddu o ganlyniad i orfodi mwy o bobl i astudio'r iaith yn yr ysgol am dair blynedd ychwanegol. A gaf i gyfeirio at y diffyg cynnydd yn nifer y bobl sy'n manteisio ar Gymraeg Safon Uwch yn yr ysgol, a nodwyd yn yr adroddiad? Nid oes cynnydd parhaol sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr ysgol sy'n dilyn Cymraeg Safon Uwch, felly mae hyn, ynddo'i hun, yn dangos, i raddau helaeth, fod y polisi o orfodi disgyblion ysgol i gymryd y Gymraeg hyd at 16 oed wedi methu. Rwy'n credu bod hyrwyddo nosweithiau rhieni i annog mwy o bobl i fanteisio ar Gymraeg Safon Uwch yn syniad da. Byddai modd defnyddio'r un dull gyda TGAU Cymraeg yn fy marn i, ond efallai fod hynny'n drafodaeth ar gyfer diwrnod arall. Fy mhrif ddadl yw y gall dysgu Cymraeg fod yn brofiad cadarnhaol iawn, ond rhaid ei wneud gyda chydsyniad a mewnbwn gweithredol y dysgwr. Rhaid i'r dysgwr fod eisiau dysgu, felly'r prif beth yw annog mwy o bobl ifanc i gymryd y pwnc cyn belled ag y bo modd. Mae nosweithiau rhieni'n iawn, ond, hyd yn oed yno, rhaid inni sicrhau bod y myfyrwyr ifanc eu hunain hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar ba Safon Uwch y maen nhw’n eu cymryd.
Mae yna broblemau cysylltiedig â'r nifer sy'n manteisio ar gymryd Safon Uwch, megis y prinder athrawon ysgol gynradd a'r prinder mwy o ran athrawon ysgol uwchradd—materion a godwyd eisoes heddiw gan siaradwyr cynharach. Mae yna gynllun trosi, a ddisgrifir yn yr adroddiad, ond yr anhawster yw nad yw llawer o athrawon ysgol gynradd o bosibl eisiau troi at yr ysgol uwchradd a hefyd mae gennych chi brinder athrawon ysgol gynradd beth bynnag. Felly, mae anawsterau wrth symud ymlaen tuag at y dyhead da iawn o wella'r defnydd o'r Gymraeg. Er hynny, rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog am ei dull cyffredinol o weithredu.