Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu y daethpwyd o hyd i lety ar unwaith i 974 o bobl a gyflwynodd eu hunain yn ddigartref yn ystod mis Awst; Darparwyd llety hirdymor addas i 476 o bobl ddigartref; ac roedd 101 o bobl ddigartref yn cysgu ar y stryd. Bydd data misol o'r math hwnnw yn cael eu cyhoeddi ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon.