Swyddi a Chyfleoedd Hyfforddi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:30, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n sicr yn ymwybodol o fater Centrica, ar ôl cael trafodaethau'n uniongyrchol gydag arweinwyr y GMB yn ei gylch. Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Ken Skates at Centrica yn ôl ym mis Awst pan oeddem yn trafod hyn ddiwethaf gyda'r undeb. Gadewch imi fod yn glir, Llywydd: nid oes esgus i unrhyw sefydliad neu gwmni ddefnyddio argyfwng y coronafeirws i erydu hawliau a breiniau ei weithlu. Ac ategaf yn fawr iawn y sylw olaf a wnaeth Huw Irranca-Davies; rwy'n credu y byddai'n ddoeth iawn i'r cwmni dynnu'r bygythiad yn ôl, i ailddechrau trafod ac i weithio gyda'r GMB i negodi cytundeb.