Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Dwi'n deall hefyd bod yna uned hyfforddi deintyddion yn mynd i gael ei sefydlu yn y gogledd, ac mae hynny yn newyddion da, wrth gwrs, ond mae o ddwy neu dair blynedd i ffwrdd, ac yn y cyfamser, mae yna argyfwng gwirioneddol yn digwydd yn fy etholaeth i. Mae rhan o'r broblem yn codi o'r ffordd mae'r cytundebau yn gweithio rhwng deintyddion a'r byrddau iechyd, ac mae yna addewid wedi bod ers tro y byddai'r Llywodraeth yma yn edrych yn fanwl ar beth sydd angen ei wneud er mwyn gwella'r sefyllfa yna. Fedrwch chi symud ymlaen efo'r gwaith yna rŵan os gwelwch yn dda? Ar y funud, mae pobl yn fy etholaeth i yn cael eu gadael i lawr. Mae yna ddeintyddfa arall yn cau y flwyddyn nesaf, ac mae yna wirioneddol angen gweithredu buan yn y maes yma.