Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Diolch, Prif Weinidog, am yr atebion hyd yn hyn i gwestiynau’r arweinyddion a hefyd i'r cwestiwn penodol hwn am y treial ym Merthyr. A ydych chi mewn sefyllfa i gadarnhau pryd y gellir gwneud y dadansoddiad, os bydd y treial hwn yn llwyddiannus—a'r arwyddion cychwynnol yw ei fod wedi bod yn llwyddiannus—y bydd hyn yn cael ei gyflwyno ledled gweddill Cymru, ac, yn arbennig, yn Rhondda Cynon Taf, ardal yr wyf i'n ei chynrychioli yn y fan yma yr wyf i'n credu y byddai'n elwa'n fawr ar y drefn brofi hon?