Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 24 Tachwedd 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac, fel bob amser, am y copi ymlaen llaw, ac i roi cefnogaeth gyffredinol iddo gan Blaid Cymru am sylwedd y datganiad. I wneud fy sylwadau agoriadol, hoffwn gefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am bwysigrwydd tacsis a cherbydau preifat. Mewn rhai cymunedau nhw yw'r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus, mewn gwirionedd, ac ni allai pobl ymdopi hebddyn nhw, ac rwy'n gwybod bod llawer o ddarparwyr tacsis a cherbydau hurio preifat wedi gwneud gwaith ychwanegol yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwn fod cwmni tacsis cydweithredol Drive yng Nghaerdydd yn casglu presgripsiynau ac yn dosbarthu bwyd i bobl, a gwn fod hynny wedi'i adlewyrchu ledled Cymru.
Rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn iddo gael cydweithrediad a chefnogaeth y sector er mwyn gallu cyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ei ddatganiad. Bydd, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r gwrthdystiad heddiw, y gwrthdystiad gan undebau llafur heddiw—ac un o'r arwyddion yn cyfeirio atyn nhw eu hunain, y diwydiant tacsis, yn fasnach anghofiedig weithiau, yn enwedig drwy'r pandemig. Nawr, mae'r Gweinidog wedi crybwyll bod cymorth ariannol ar gael drwy'r gronfa cadernid economaidd, y gronfa cymorth dewisol i fusnesau yn ystod y cyfyngiadau symud, ond tybed a all ddweud ychydig mwy am ei dybiaeth ynghylch faint o hynny sydd wedi cyrraedd pobl sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis a hurio preifat. Efallai y bydd problemau, er enghraifft, o ran cael gafael ar wybodaeth. Mae llawer o'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant, er enghraifft, yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn bobl o wledydd eraill nad oes ganddyn nhw'r Gymraeg na'r Saesneg fel eu hiaith gyntaf o bosibl; efallai nad ydyn nhw'n gwybod ble i fynd i chwilio am y math hwn o gymorth. Croesawaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw am gyfarpar diogelu personol ar gyfer gyrwyr tacsis, ond wrth gwrs gwyddom, i lawer o bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw, ei bod yn llythrennol yn rhy hwyr. Mae hwn wedi bod yn sector lle mae llawer iawn o bobl sy'n gweithio ynddo wedi mynd yn sâl, felly a wnaiff roi amserlen inni ynghylch y gwaith hwnnw o ran cyfarpar diogelu? Oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol i'r bobl hynny, fel y dywedodd ei hun, allu gweithio'n ddiogel ac er diogelwch eu teithwyr, wrth gwrs.
Cytunaf yn bendant fod angen deddfwriaeth, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r fframwaith presennol yn hen ffasiwn iawn. Yn fy nhrafodaethau â chynrychiolwyr y sector, credaf eu bod, yn gyffredinol, yn gwerthfawrogi'r angen i ddiwygio, ond mae rhai pryderon. Dydw i ddim yn hollol siŵr a fyddwn i'n cytuno â'r Gweinidog pan ddywed nad yw pobl yn gwybod y gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat. Rwy'n adnabod, er enghraifft, llawer o fenywod a fydd bob amser yn defnyddio tacsi yn hytrach na cherbyd hurio preifat oherwydd y canfyddiad, boed yn wir ai peidio, bod y safonau fetio yn golygu bod tacsi yn lle mwy diogel i fenyw os yw'n teithio ar ei phen ei hun. Mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn rhywbeth yr wyf bob amser yn argymell bod fy merch i yn ei wneud. Felly, mae pryder, drwy ddileu'r gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat—. A all y Gweinidog fy sicrhau heddiw nad yw hynny'n mynd i arwain at leihad mewn safonau, a'n bod mewn gwirionedd yn mynd i weld y cerbydau hurio preifat yn cael eu codi i'r un safonau ag sy'n ofynnol yn awr i'r hyn yr ydym yn eu hystyried yn dacsis go iawn—mae'n debyg nad dyna'r ffordd gywir o'i ddisgrifio—oherwydd yn sicr ni fyddem am weld safonau'n gostwng? Felly, gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy heddiw am y cyfiawnhad dros y newidiadau un haen. Credaf fod symlrwydd yn amlwg yn un ohonyn nhw, ond a all fod yn siŵr na chaiff safonau eu gostwng?
Nawr, mae'r syniad o gronfa ddata a chofrestr genedlaethol yn rhywbeth y byddem yn ei groesawu ym Mhlaid Cymru, ac mae cryfhau pwerau gorfodi er budd diogelwch a safonau'r cyhoedd yn bwysig. Mae lleiafrif o bobl yn gweithio yn y maes hwn nad ydyn nhw'n cadw eu cerbydau'n lân, nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau y byddem yn eu disgwyl, ac mae hynny wrth gwrs yn ddrwg i bawb sy'n gweithio yn y diwydiant. Ond rwyf wedi clywed pryderon ynghylch dileu unrhyw elfen leol yn gyfan gwbl. Siawns nad oes angen i awdurdodau lleol wybod faint o gerbydau sydd ar y ffordd yn eu hardal, ac os yw tacsis a cherbydau hurio preifat i fod yn rhan o'n cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus cyffredinol, mae angen inni wybod ble maen nhw ar lefel leol hefyd. Yn ei ymateb i Russell George, credaf fod y Gweinidog wedi sôn am y risg o orgyflenwi mewn rhai ardaloedd, ond byddwn hefyd yn awgrymu i'r Gweinidog fod perygl hefyd o dangyflenwi—sef os caiff tacsis eu cofrestru'n genedlaethol, byddant yn mynd i weithio lle mae'r gwaith, a gallai hynny olygu bod rhai cymunedau'n cael eu hamddifadu o wasanaeth. Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig mwy am sut y mae'n bwriadu sicrhau bod gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ledled y wlad. Un fantais o gofrestru fesul sir yw mai dyna'r sir y mae'n rhaid i chi weithio ynddi.
Felly, yn olaf, i ddod at y materion di-garbon, yn y strategaeth drafnidiaeth yr wythnos diwethaf fe wnaethoch chi sôn am yr angen i drosglwyddo i dacsis dim allyriadau, a chroesawais yr hyn a oedd gennych i'w ddweud am alluogi pobl i roi cynnig ar hynny, ond a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym, Gweinidog? Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn dweud ychydig mwy am y cynllun cymhellion sy'n cael ei ystyried. A fyddai, er enghraifft, o bosibl yn rhoi cymorth i alluogi gyrwyr i brynu cerbydau dim allyriadau, sydd, wrth gwrs, yn ddrutach ar hyn o bryd? Diolch.