5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Diwygio'r drefn ar gyfer Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:25, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones fod llawer o bobl yn dibynnu'n eithriadol o drwm ar dacsis a cherbydau hurio preifat, yn enwedig pobl nad oes mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael iddyn nhw mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, a hefyd, yn hollbwysig, pobl sy'n wynebu rhwystrau anablu mewn cymdeithas. Ac eto hefyd, ochr yn ochr â hyn, gwyddom, mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol, fod cyn lleied â 5 y cant o dacsis a cherbydau hurio preifat sy'n gallu cynnig mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Ac yn aml, gwyddom o'r adroddiadau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fod pobl sy'n wynebu rhwystrau oherwydd anableddau mewn cymdeithas yn aml yn wynebu heriau ychwanegol o ran gordalu, ac weithiau nid yw'r profiad gwasanaeth cwsmeriaid yr hyn y byddem yn sicr yn ei ddisgwyl. Ac felly mae llawer o rwystrau y mae'n rhaid i ni naill ai eu dileu neu eu goresgyn er mwyn sicrhau bod y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn diwallu anghenion pobl anabl.

O ran y sector ei hun a'n hymgysylltiad ni, fel y dywedais ychydig yn gynharach, cyfarfûm â TUC Cymru, ag Unite, â'r GMB yr wythnos diwethaf i drafod yr heriau y mae gyrwyr tacsis yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ystod y pandemig. Ac, o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, gofynnais i nifer o ddarnau o waith brys gael eu gwneud—un i gasglu'r data ynghylch trydydd cam y gronfa cadernid economaidd, oherwydd datblygwyd y trydydd cam gyda gyrwyr tacsis mewn golwg yn fwy na dim. Dyna pam wnaethom ni ddatblygu'r elfen grant dewisol honno o £25 miliwn. Ac felly rwyf wedi gofyn am adborth gan awdurdodau lleol ynghylch faint o grantiau y gwnaed cais amdanyn nhw gan yrwyr tacsis, ac i'r undebau eu hunain sicrhau bod eu haelodau'n cael gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael—y cynlluniau dewisol hynny, cynllun y gronfa cymorth dewisol, er enghraifft, y cynllun cymorth hunangyflogaeth, nad yw miloedd a miloedd o bobl hunangyflogedig yng Nghymru yn ei ddefnyddio o hyd. Felly fe gaiff y data hynny ei gasglu. Rwyf hefyd wedi gofyn i wahanol ddarnau eraill o waith gael eu gwneud, gan gynnwys wrth gwrs sut y gallwn ni gyflenwi cyfarpar diogelu personol gwerthfawr i yrwyr tacsi. Yr her fawr o ran cyfarpar diogelu personol yw nid yn gymaint sut yr awn ati i sicrhau digon ohono i'r diwydiant a gyrwyr, ond mewn gwirionedd sut ydym ni'n sicrhau bod y gyrwyr yn derbyn y cyfarpar yna—sut y maen nhw yn cael y cyfarpar diogelu personol hwnnw, y caiff ei ddefnyddio gan weithredwyr tacsis.

Ac mae'n bwynt diddorol y mae Helen Mary Jones yn ei wneud am y gwahaniaeth rhwng cerbydau hurio preifat a thacsis. Credaf fod Helen Mary Jones yn gwneud pwynt pwysig—y bydd rhai pobl yn amlwg yn gwybod beth yw'r gwahaniaethau ac y caiff safonau ar gyfer tacsis eu hystyried yn uwch nag ar gyfer cerbydau hurio preifat, ac yn enwedig o ran diogelwch y cyhoedd. Mae pryderon difrifol sy'n deillio o rai o'r adroddiadau a gomisiynwyd ynglŷn â'r ffordd y mae rhai pobl wedi cael eu trin. Er enghraifft, amlygodd adroddiadau Jay a Casey ar gamfanteisio ar blant yn rhywiol yn Rotherham bod enghreifftiau o yrwyr tacsis yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol â phlant a oedd yn cael eu cam-drin, gan gynnwys achosion lle yr oedd plant yn cael eu casglu o ysgolion, cartrefi plant neu o gartrefi teuluol a'u cam-drin neu eu hecsbloetio'n rhywiol yn gyfnewid am deithiau tacsis am ddim. Ac felly gallaf sicrhau Helen Mary Jones a phob Aelod heddiw mai dim ond un ffordd y bydd y safonau'n mynd—cânt eu gwella. Ac mae hynny'n gwbl hanfodol er budd diogelwch y cyhoedd, yn enwedig y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Cododd Helen Mary Jones y cwestiwn hefyd am y gronfa ddata genedlaethol a'r safonau cenedlaethol. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol y caiff safonau  eu cynnal ar y lefel uchaf bosibl ar sail genedlaethol fel nad ydym yn cael y math o broblemau trawsffiniol a brofwn yn awr. A chredaf y bydd elfen leol gref iawn i weithrediad y gyfundrefn fel yr ydym yn ei chynnig, yn enwedig ar lefel awdurdod lleol ond hefyd ar lefel cydbwyllgor corfforaethol. Ac mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu'n llawn â'n hymgynghoriadau ac wrth lunio'r ddeddfwriaeth, ac wrth gwrs maen nhw wedi cymryd rhan lawn. Maen nhw wedi bod yn cyd-ysgrifennu'r argymhellion, yr enillion cyflym hynny a amlinellais. A chredaf, o ran cynnal gweithrediadau tacsis a hurio preifat mewn ardaloedd gwledig, fod rhywfaint o fethiant yn y farchnad eisoes mewn sawl rhan o'r Gymru wledig, a dyna pam mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn sicr wedi bod mor bwysig yn yr ardaloedd hynny. A byddwn yn parhau â'n hymrwymiad i drafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig fel ffordd hanfodol o alluogi pobl i gael gwaith a chael mynediad at wasanaethau hanfodol.