Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 24 Tachwedd 2020.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad? Unwaith eto, yn anhygoel o adeiladol—ni allwn anghytuno â dim o'r hyn y mae Alun Davies wedi'i amlinellu. Gwnaeth dri phwynt cryf iawn. Un, mae angen cymorth tymor byr i gael y sector drwy'r pandemig. Yn ail, mae angen cymorth pontio i sicrhau ein bod yn diogelu'r diwydiant yn y dyfodol, i'w wneud yn gystadleuol, er mwyn sicrhau y gall bontio a chystadlu ag elfennau sy'n amharu ar y diwydiant. Ac yna, yn drydydd, mae Alun yn gwneud y pwynt pwerus hwn, fod yn rhaid inni gydnabod bod tacsis a gwasanaethau cerbydau hurio preifat yn rhan annatod o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru, a byddwn yn cytuno'n llwyr fod angen dangos hynny, a chaiff ei ddangos drwy'r ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn ail flwyddyn tymor nesaf y Senedd.
Ac o ran y gefnogaeth uniongyrchol i'r diwydiant, wel, hyd yma, rydym wedi sicrhau mwy na 100,000 o swyddi drwy'r gronfa cadernid economaidd, ac mae hynny'n ychwanegol at gefnogaeth Llywodraeth y DU i'r cynllun cymorth hunangyflogaeth a'r cynllun cadw swyddi, y gwn y bu o gymorth i'r sector, ond mae'n ymddangos, mewn llawer o achosion, yn enwedig yma yng Nghymru, mewn gwirionedd, nad yw gyrwyr unigol yn elwa ar hynny am ryw reswm neu'i gilydd. Yn seiliedig ar y trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael gyda'r TUC a chydag undebau, credwn y gallai methu cael gafael ar wybodaeth fod yn ffactor allweddol o ran gyrrwyr ddim yn elwa ar gymorth priodol. Ac felly, fel y dywedais mewn ymateb i Helen Mary Jones, rydym yn gweithio gyda'r undebau i sicrhau y gellir dosbarthu a lledaenu gwybodaeth briodol ar draws y diwydiant, a bod yr undebau'n gweithio gydag awdurdodau lleol, ac wrth gwrs gyda Llywodraeth Cymru, i rannu gwybodaeth briodol. Oherwydd, fel y dywedais, fe wnaethom ni sefydlu'r trydydd cam hwnnw o'r Fframwaith, yn enwedig yr elfen gronfa grant dewisol o £25 miliwn, i gefnogi unig fasnachwyr megis gyrwyr tacsis, er mwyn goroesi'r cyfnod atal byr diweddar. Mae gyrwyr tacsis wedi gallu cael cymorth gan y cynllun grant dewisol hwnnw hyd yn oed os ydyn nhw wedi defnyddio'r cynllun cymhorthdal incwm hunangyflogaeth. Felly, mae'r arian wedi bod ar gael, mae'n ymddangos nad yw unigolion o fewn y sector wedi manteisio arno ar raddfa ddigonol, a dyna pam yr wyf wedi gofyn am atebion ynghylch pam mae hynny'n wir.
Ac yna, yn y tymor hwy, credaf fod Alun Davies yn gwneud pwynt eithriadol o bwysig sef ein bod yn wynebu nifer o ffactorau tarfu: y newid i gerbydau trydan; y newid tuag at gerbydau cwbl annibynnol o bosibl; gwahanol fodelau o drafnidiaeth gyhoeddus—felly, defnyddio ceir a rennir ac ubereiddio trafnidiaeth gyhoeddus; yr angen i ddatgarboneiddio; a gwahanol ffyrdd o weithio yn ogystal â mewn amgylchedd ôl-COVID, gyda chanolfannau gweithio o bell. Fe wnaethom ni sefydlu, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, y galwadau i weithredu. Felly, rhaid i fusnesau sy'n ceisio cyllid o gronfa dyfodol yr economi wneud hynny ar sail un o'r pum pwynt yn y galwadau i weithredu, ac mae dau o'r rheini'n ymwneud â datgarboneiddio ac ymateb i her tarfu technolegol. Mae'n ffordd berffaith i'r sector allu cael gafael ar gyllid er mwyn goresgyn a herio'r technolegau aflonyddgar hynny a'r newid i economi sero-net. Unwaith eto, byddwn yn annog y sector i edrych ar y gronfa benodol honno fel cyfrwng priodol ar gyfer defnyddio cymorth ariannol er mwyn cael y cerbydau y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol.