5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Diwygio'r drefn ar gyfer Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:50, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am y pwyntiau y mae wedi'u codi a'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn? Mae'n hollol iawn i ddweud bod angen inni osgoi unrhyw ras i'r gwaelod. Wrth wneud hynny, rhaid inni sicrhau bod y safonau hynny y soniais  amdanyn nhw'n gynharach o'r ansawdd uchaf, a sicrhau y gallwn ni gystadlu â'r newydd-ddyfodiaid hynny i'r farchnad ar sail safonau a diogelwch. Rhaid dweud bod gormod o gyflenwyr tacsis wedi achosi cyflogau is. Felly, o ran gweithredu'n groesffiniol, nid oes amheuaeth nad yw'r ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei chyflwyno yn y tymor nesaf, yn hanfodol bwysig o ran codi lefelau cyflog gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.

Wrth gwrs, mae Mick Antoniw yn tynnu sylw at y rhan hanfodol y mae tacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat wedi'i chwarae yn ystod y pandemig cyfan, gan sicrhau bod modd i weithwyr allweddol ac offer y GIG gael eu cludo'n ddiogel ac yn ddibynadwy. Rwyf i'n hynod ddiolchgar i'r diwydiant am chwarae ei ran wrth ymateb i'r ymdrech genedlaethol. Rwy'n gwybod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i fod i wneud datganiad heddiw ynghylch gweithgareddau o fewn tasglu'r Cymoedd. Bydd hynny'n digwydd ar 8 Rhagfyr, ac rwy'n siŵr y bydd ganddo rywbeth i'w ddweud bryd hynny am rai o'r cynlluniau peilot sydd wedi bod yn digwydd o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Gan gydnabod y rhan hanfodol y mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei chwarae yn y Cymoedd, rwy'n siŵr y bydd ganddo rywbeth i'w ddweud am y gwasanaethau y maen nhw'n eu gweithredu yn y cymunedau hynny y mae Mick Antoniw ac Aelodau eraill yn eu cynrychioli mor dda.