7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:01, 24 Tachwedd 2020

Mi fyddem ninnau hefyd yn cefnogi'r rheoliadau yma heddiw. Mae'r sefyllfa yn Nenmarc yn bryderus, wrth gwrs, ac mae'n synhwyrol i gymryd camau i ddiogelu'r cyhoedd yng Nghymru yn sgil y datblygiadau hynny. Mae'r rheoliadau yma hefyd yn tynnu nifer o wledydd oddi ar y rhestr o diriogaethau sy'n esempt o waharddiadau ac yn y blaen, ac yn ychwanegu gwledydd eraill ati. Mae hynny'n dweud wrthym ni, onid ydy, fod stori'r feirws yn stori o feirws sy'n ddeinamig o hyd ar hyd a lled y byd, ac mae hynny'n ein hatgoffa ni nad ydy pethau drosodd o bell ffordd eto.

Mae o'n ddeinamig yma yng Nghymru hefyd, wrth gwrs, ac mi wnaf i ychydig o sylwadau ynglŷn â hynny. Do, mi gawsom ni'r cyfnod clo dros dro ac roeddwn innau, ynghyd ag Aelodau Plaid Cymru, wedi galw am hynny. Mi oedd hi'n amser am y cyfnod hwnnw. Ond rydym ni'n gallu gweld, onid ydym, fod yna arwyddion pryderus mewn sawl rhan o Gymru—mewn llawer o rannau o Gymru, a dweud a gwir—ynglŷn â'r ffordd mae patrwm y feirws yn mynd. Ac mi ddywedaf i yn fan hyn ein bod ni'n barod i weithio efo'r Llywodraeth ar reoliadau newydd gallai fod angen eu cyflwyno, a'r rheoliadau hynny efo pwyslais ar gefnogi.

Mi drafodon ni yma yn y Senedd brynhawn dydd Mercher diwethaf y pwysigrwydd o gefnogi pobl i helpu cymunedau i'w helpu eu hunain i reoli'r feirws yma. Mi glywson ni yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yr wythnos diwethaf mor bwysig ydy cefnogi cymunedau, cefnogi pobl i hunan-ynysu ac yn y blaen, fel un o'r prif arfau yn erbyn y feirws yma. Felly, gadewch i ni edrych yn enwedig ar yr ardaloedd hynny o Gymru lle mae'r feirws ar gynnydd a gweld sut y gallen ni drio newid ymddygiad pobl ac arferion pobl drwy eu helpu nhw. Mae yna lawer rhy ychydig o bobl, nid dim ond yng Nghymru, ond yn yr ynysoedd yma, sydd yn methu â gwneud yr hyn sydd ei angen er mwyn hunan-ynysu yn llym. Mae gwledydd eraill yn llawer gwell am gael pobl i hunan-ynysu, a'r rheswm ydy bod yna fwy o gefnogaeth yn y gwledydd hynny—nid dim ond cefnogaeth ariannol, fel rydym ni wedi pwysleisio sydd ei angen, ond cefnogaeth ymarferol, cefnogaeth emosiynol hefyd, i bobl allu gwneud y penderfyniadau iawn.

Dwi'n annog y Llywodraeth i ystyried y mathau yna o gamau yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf—meddwl amdanyn nhw fel cefnogaeth yn hytrach na chyfyngiadau. Mae pawb wedi cael llond bol ar gyfyngiadau. Ond mae yna ardaloedd sydd angen mwy o help nag eraill, a rydym ni'n barod i gefnogi'r Llywodraeth os ydyn nhw am ystyried hynny wrth inni symud ymlaen i'r cyfnod nesaf.