8. Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:18, 24 Tachwedd 2020

Mae Plaid Cymru yn croesawu'r bwriad i wella'r gefnogaeth i ddisgyblion gydag anghenion ychwanegol, ond dwi'n nodi, fodd bynnag, fod yna nifer o heriau yn codi efo cyflwyno'r newidiadau, yn enwedig yn sgil COVID ac o gofio'r diwygiadau cwricwlwm pellgyrhaeddol sydd ar y gorwel hefyd.

Mae'r newidiadau i addysg disgyblion anghenion ychwanegol yn cario pris efo nhw, ond dydy hi ddim yn glir faint fydd hyn i gyd yn ei gostio—ddim yn glir faint fydd o'n gostio mewn termau staffio na mewn termau hyfforddiant. Ond dwi'n meddwl bod yna gytundeb yn gyffredinol y bydd o'n golygu pwysau ariannol ychwanegol ar ein hysgolion ni er bod cyllidebau yn crebachu. Mae cryn waith i'w wneud i uwch-sgilio staff, hefyd. Felly, tra'n croesawu'r rheoliadau newydd yma, mae'n rhaid i'r Llywodraeth gydnabod bod yna gryn heriau wrth gyflwyno'r newidiadau mewn ffordd ystyrlon a fydd wir yn gwneud gwahaniaeth i'r cohort arbennig yma o blant.