Part of QNR – Senedd Cymru ar 24 Tachwedd 2020.
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod ein porthladdoedd yn parhau i weithredu mor llyfn â phosib. Dim ond ar ddiwedd mis Awst y daeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gysylltiad â Gweinidogion Cymru ynglŷn â datblygu safle mewndirol parhaol i wasanaethu porthladd Caergybi. Mae’r ffaith nad oedden nhw wedi dod i gysylltiad â ni yn gynharach ynglŷn â’r mater hwn yn golygu ei bod hi’n dipyn o her i ddarparu’r seilwaith sydd ei angen ar y ffin.