Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Llywydd, rydym ni'n defnyddio amrywiaeth eang o waith ymchwil a dadansoddi i ddeall effaith tlodi sy'n gysylltiedig â coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, arolwg gweithlu y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y Resolution Foundation, arolwg cenedlaethol Cymru, Cyngor ar Bopeth a Sefydliad Bevan.