Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Wel, Llywydd, diolchaf i David Rowlands am y pwyntiau yna. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod Llywodraethau Llafur olynol yma yn y Senedd hon wedi darparu 13 mlynedd barhaus o fuddsoddiad i gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd, am y rhesymau y mae David Rowlands wedi'u nodi—y bydd yn dod â chyfleoedd economaidd newydd i'r cymunedau hynny ym Mlaenau'r Cymoedd. Bydd yn eu cysylltu mewn ffordd nad ydyn nhw erioed wedi cael eu cysylltu o'r blaen, â seilwaith modern, i'r dwyrain â chanolbarth Lloegr ac i'r gorllewin â gorllewin Cymru. Mae'n rhan hanfodol o fuddsoddiad y Llywodraeth hon yn y cymunedau hynny, ac mae cwblhau'r darn rhwng Dowlais a Hirwaun yn cyflawni ein hymrwymiad i'r cymunedau hynny.
Ac a gaf i ddweud bod David Rowlands hefyd wedi gwneud pwynt pwysig? Pe na baem ni'n ei wneud drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol, ni fyddai'r ffordd hon yn cael ei hadeiladu. Dyma'r unig ffordd y gallwn wneud y buddsoddiad hwnnw, ac ar adeg pan wyddom, o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos diwethaf ac amcangyfrifon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r hyn a fydd yn digwydd i'r economi y flwyddyn nesaf, ein bod ni angen prosiectau sy'n barod i gychwyn nawr. Bydd mil o bobl yn cael eu cyflogi ar anterth gwaith adeiladu'r ffordd hon, 120 o brentisiaethau, 60 o hyfforddeiaethau, 320 o interniaethau, i bobl ifanc yn y rhan honno o Gymru, lle bydd y manteision yn cael eu teimlo yn y cymunedau hynny sydd eu hangen fwyaf. [Torri ar draws.] Nid yw'n syndod i mi bod y Torïaid yn ei wrthwynebu—wrth gwrs y bydden nhw; nid oes ganddyn nhw ddiddordeb o gwbl yn yr hyn sy'n digwydd yn y rhan honno o Gymru. Ond yma ar y meinciau hyn, rydym ni'n falch dros ben o'n record o fuddsoddi yn y ffordd hon, yn y cymunedau hynny, a dyna fydd y darn olaf hwn yn ei gyflawni.