Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 1 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:06, 1 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Er bod y pecyn ychwanegol o gymorth ariannol a gyhoeddwyd ddoe yn amlwg i'w groesawu, nid yw'n digolledu'r sector lletygarwch yn llawn am y refeniw y bydd yn ei golli dros dymor yr ŵyl, a cheir sectorau eraill sy'n cael eu cloi allan o gymorth digonol yn barhaus—y gyrwyr tacsi y mae eu masnach ym mis Rhagfyr yn dibynnu i raddau helaeth ar fynd â phobl i fariau a bwytai ac oddi yno, a gweithwyr yn yr economi gig, sy'n dibynnu ar waith tymhorol. I gynifer o bobl, mae'r cyfyngiadau hyn fel y maen nhw wedi'u sefydlu ar hyn o bryd yn ffon i gyd a dim moron, ac nid yw'r cymorth yn eu digolledu yn ddigonol am y golled o enillion. Rydym ni wedi cael y cyhoeddiad am Debenhams heddiw a'r cyhoeddiad gan Brains; ers dechrau 2020, bu cynnydd o 41 y cant i ddiweithdra yng Nghymru o'i gymharu â 18 y cant yn Lloegr, sy'n golygu bod tua 20,000 o bobl ychwanegol yn chwilio am waith. I ddiogelu swyddi ac er budd llesiant ehangach pobl, ac i gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn y polisi iechyd cyhoeddus cyffredinol, a gaf i annog y Prif Weinidog i ailystyried penderfyniad ddoe?