Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Diolchaf i Leanne Wood am y cwestiwn yna, Llywydd. Rydym ni'n mynd i'r afael â thlodi yn y Rhondda drwy gyfres o raglenni sy'n rhoi neu'n gadael arian ym mhocedi'r rhai sydd ei angen fwyaf. Ers mis Ebrill eleni, er enghraifft, mae'r gronfa cymorth dewisol wedi gwneud dros 11,000 o ddyfarniadau yn Rhondda Cynon Taf, gan ddarparu £1 filiwn i'r rhai na fyddent wedi cael dim fel arall.