Cyfleusterau Iechyd Cymunedol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 1 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:09, 1 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Russell George am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae gwasanaethau lleol wedi gwneud cynnydd cyflym o ran gweithredu agweddau allweddol ar fodel gofal sylfaenol Cymru. Yn y canolbarth, mae bwrdd iechyd Powys yn bwrw ymlaen ag ailddatblygiad Bro Ddyfi ym Machynlleth a meddygfa newydd yn Llanfair Caereinion.