Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wrth gwrs, wedi pwysleisio'n gyson dros fisoedd lawer erbyn hyn mai ei bwriad hi yw cyhoeddi Papur Gwyn ar y cynllun ffermio cynaliadwy cyn diwedd y flwyddyn yma. Dwi'n edrych ar y datganiad busnes sydd wedi'i gyhoeddi, a does yna ddim datganiad llafar yn ymwneud â'r Papur Gwyn hwnnw yn yr amserlen arfaethedig. Mae hynny'n fy arwain i i ddod i'r casgliad naill ai na fydd hi'n gwneud y cyhoeddiad hwnnw cyn diwedd y flwyddyn, neu, wrth gwrs, mai bwriad y Llywodraeth yw cyhoeddi'r Papur Gwyn hwnnw nid i'r Senedd yn gyntaf, drwy ddatganiad llafar, ond drwy ddatganiad ysgrifenedig.
Nawr, byddwch chi'n deall cystal â fi, dwi'n siŵr, pa mor arwyddocaol fydd y Papur Gwyn yma, oherwydd mae e'n cyflwyno argymhellion am newid unwaith mewn cenhedlaeth i'r modd y mae amaethyddiaeth yn cael ei gefnogi yng Nghymru. Mae e hefyd yn ddadleuol, a byddwn i'n gobeithio'n fawr nad bwriad Llywodraeth Cymru yw rhyddhau'r Papur Gwyn yma, dyweder, fel dwi wedi'i glywed, ar ddiwrnod olaf y tymor, 16 Rhagfyr, fyddai'n caniatáu, wedyn, i Weinidogion redeg bant a chuddio o dan garreg tan y flwyddyn newydd, gan obeithio bod y ffỳs wedi marw lawr ychydig cyn inni fel Aelodau gael cyfle i drafod y Papur Gwyn yn y Siambr. Felly, gaf i ofyn am ddatganiad llafar i gyd-fynd â rhyddhau'r Papur Gwyn yna?
Gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth mewn ymateb i'r adolygiad gwariant, wrth gwrs, gan Ganghellor Llywodraeth y Deyrnas Unedig? Mi fyddwch chi, gymaint ag unrhyw un, yn ymwybodol, dwi'n siŵr, o oblygiadau hwnnw i gyllidebau yma yng Nghymru. Dwi'n meddwl yn benodol, wrth gwrs, am y toriad, oherwydd dyna yw e, yn y gefnogaeth ariannol i amaethyddiaeth yng Nghymru—nifer ohonom ni'n poeni'n fawr am hyn. Rŷch chi, fel Llywodraeth, yn amlwg yn ymwybodol mai toriad yw e, Llywodraeth yr Alban yn ei ddisgrifio fe yn yr un ffordd, gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, yr undebau amaeth—mae'r neges yn glir. Mae nifer ohonom ni, wrth gwrs, wedi rhybuddio ynglŷn â thanwario o fewn yr rural development plan, a dwi'n gwybod bod gennym ni flynyddoedd ychwanegol i wario'r pres hwnnw, ond mae'n amlwg nawr, wrth gwrs, ein bod ni'n cael ein cosbi o'r herwydd hynny.
Felly, mi fyddwn i'n leicio clywed, naill ai gan y Gweinidog amaeth, efallai, pa oblygiadau fydd y toriad yma yn ei gael ar y sector yng Nghymru, neu, efallai, gennych chi, yn ehangach, nid yn unig ar hwn, ond ar yr oblygiadau o safbwynt newid yn y ffordd mae gwariant yn Lloegr ar drafnidiaeth, a materion eraill yn ymwneud â'r adolygiad gwariant, oherwydd maen nhw'n mynd i fod yn bellgyrhaeddol iawn.