Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Diolch, Llywydd, rwy'n credu, oherwydd y cyfieithiad—efallai mai ar fy ochr i y mae'r broblem—gwnaf fy sylwadau yn Saesneg, os caf i.
Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon. Credaf ei bod hi'n bwysig inni gael y ddadl hon am y rhesymau y mae llawer o gyfranwyr wedi'u hamlinellu, fel cam pwysig yn swyddogaeth gynyddol y Senedd o ran craffu ar weithrediad rhannau o'r system gyfiawnder yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy'n effeithio ar feysydd polisi eraill yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw drwy'r setliad datganoledig yng Nghymru.
Gwnaeth nifer o'r siaradwyr, gan ddechrau gyda David Melding, y sylw am yr angen am ryw fath o ddull o resymoli, os mynnwch chi, gwaith y tribiwnlysoedd yn gyffredinol, a phwysigrwydd annibyniaeth y tribiwnlysoedd. Gwnaeth Mark Reckless a Dai Lloyd sylwadau tebyg hefyd. A hoffwn gefnogi'r datganiad a wnaeth Mick Antoniw pan oedd yn Gwnsler Cyffredinol, gan danlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i annibyniaeth y tribiwnlysoedd yma yng Nghymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn egwyddor hanfodol. Ymunais â'r Prif Weinidog yn ei gyfarfod diweddar â Syr Wyn i glywed barn Syr Wyn ynghylch sut y gallai hynny ddatblygu i'r dyfodol, ac yn sicr uchelgais y Llywodraeth yw i'r strwythurau sydd gennym ar waith i wasanaethu gwaith y tribiwnlysoedd ddod yn fwy annibynnol dros amser. Credaf mai un garreg filltir bwysig ar y daith honno fydd adroddiad Comisiwn y Gyfraith yr haf nesaf, sydd wedi'i gynllunio'n benodol i edrych ar weithrediad cyffredinol y system dribiwnlysoedd yng Nghymru—cwestiynau ynghylch penodi, trefnu ac ati. Felly, byddan nhw yn ystyriaethau pwysig o ran sut yr ydym yn sicrhau ein bod yn cynnal annibyniaeth tribiwnlysoedd yng Nghymru.
Soniodd sawl siaradwr am amlygrwydd cynyddol, y gydnabyddiaeth gynyddol, os mynnwch chi, sydd i'r corff cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru, sy'n cael effaith sylweddol iawn ar fywydau beunyddiol dinasyddion ledled Cymru mewn ffyrdd ystyrlon iawn. Mae dealltwriaeth a thrafodaeth gynyddol ohono yma yn y Senedd, yn y byd academaidd, ond hefyd, yn bwysicaf oll, yn yr orchwyl ymarferol o gael rhwymedïau i bobl. Ac roedd gan David Melding a Jenny Rathbone awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella hynny hyd yn oed ymhellach i'r dyfodol.
Hoffwn adleisio'r sylw a wnaeth Dai Lloyd yn ei gyfraniad ynghylch pwysigrwydd—arwyddocâd, yn hytrach—y ffaith bod y system tribiwnlysoedd wedi parhau i allu ymdrin â materion, hyd yn oed yng nghyd-destun coronafeirws. Credaf fod nifer fach iawn o wrandawiadau wedi'u gohirio oherwydd efallai y bydd angen ymweld â thir, er enghraifft, ac ni ragwelir y bydd yr un o'r rheini, yn ôl a ddeallaf, yn cael effaith benodol ar yr achos. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dyst i'r arloesedd a'r hyblygrwydd y mae'r system tribiwnlysoedd wedi'u dangos yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf o ganlyniad i COVID.
Yn amlwg, anghytunaf â phwynt Mark Reckless am y daith sydd o'n blaenau, ond hoffwn gefnogi'r sylwadau a wnaeth am y gwerthfawrogiad y dylem ei ddangos i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y system dribiwnlysoedd dros y flwyddyn ddiwethaf yn yr adroddiad.
Credaf mai sylwadau Mick Antoniw, i gloi, yw'r canllaw i ni yma. Mae'n bwysig inni gael y ddadl hon yma yn y Senedd nid yn unig am fod gwaith y tribiwnlysoedd yn gorgyffwrdd â pholisïau yr ydym yn gyfrifol amdanyn nhw fel arall, ond hefyd fel rhan o'r cyfrifoldeb cynyddol hwnnw ym maes cyfiawnder y mae llawer, os nad y rhan fwyaf ohonom ni, eisiau ei weld. A chredaf fod rhan o'r swyddogaeth honno, a ddisgrifiwyd gan Mick fel swyddogaeth fwy rhagweithiol, yn cael ei chyflawni drwy gael y mathau hyn o ddadleuon a dod â gwaith y system tribiwnlysoedd i brif ffrwd ein syniadau a'n hystyriaethau yma yn y Senedd.