Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, mynnodd y Prif Weinidog fy mod i'n ei gwneud yn glir ein bod mewn argyfwng iechyd cyhoeddus. Wel, mae'n iawn, rydym ni, ond rydym ni yng nghanol argyfwng economaidd hefyd, ac argyfwng economaidd a fydd yn parhau i dyfu, yn enwedig pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu cau sectorau o'r economi y mae cynifer o weithwyr yng Nghymru yn dibynnu arnynt. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn cydnabod ein bod ni mewn argyfwng economaidd yn ogystal ag argyfwng iechyd cyhoeddus.
Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r darlun llawn o ddata ac yn esbonio lle mae COVID-19 mewn lletygarwch yn digwydd. Oherwydd, i ormod o bobl ledled Cymru, mae'r mesur hwn yn ymddangos fel cam rhy bell. Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach nad oes tystiolaeth ar gael. Wel, os yw hynny'n wir, yna mae angen iddo sicrhau bod hynny ar gael a chyhoeddi'r wybodaeth. Mae hyd yn oed yr Aelod ar gyfer Blaenau Gwent wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth i gefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau felly nad yw'r dystiolaeth wedi'i chyhoeddi eto.
O ddydd Gwener, bydd pobl ledled Cymru yn gallu parhau i brynu alcohol o archfarchnadoedd a siopau, ond nid mewn tafarn neu fwyty, ac felly ni allaf weld sut y byddai dewis diod alcoholig gyda'ch cinio yn hytrach na diod ddi-alcohol yn gofyn am gyflwyno mesur sy'n gymaint o gosb. Felly, efallai wrth ymateb, y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa mor benodol y bydd gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a bwytai yn ystod y dydd yn cael effaith ar lefelau trosglwyddo. A sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu a yw hyn wedi llwyddo, neu a allem ni fod yn edrych ar y cyfyngiadau hyn yn aros yn eu lle am lawer mwy nag ychydig wythnosau?
Mae ofn gwirioneddol y gallai'r mesur hwn arwain at fwy o bobl yn ymgynnull yng nghartrefi pobl. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa fodelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar hyn, o gofio y gallai peidio â gweini alcohol mewn tafarndai, bariau a bwytai arwain at fwy o bobl yn ymgasglu ac yn yfed yn nhai ei gilydd, a allai wedyn arwain at gynnydd yn nhrosglwyddo'r feirws?
Bydd mesurau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar fusnesau lletygarwch ledled Cymru, p'un a ydynt wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae risg isel, canolig neu uchel, ac mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag ystyried hyn. Mae busnesau lletygarwch yng Nghonwy, er enghraifft, bellach o dan yr un cyfyngiadau â thafarndai a bwytai ym Mlaenau Gwent a Merthyr, lle mae'r cyfraddau'n sylweddol uwch. Rwy'n deall bod arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn mynegi ei siom ynghylch annhegwch y dull hwn a'r diffyg ymgysylltu wrth ymgynghori ar y cynigion hyn. A yw'r Prif Weinidog felly'n derbyn y rhwystredigaeth a'r gofid a deimlir gan fusnesau ac, yn wir, arweinwyr lleol mewn ardaloedd fel Conwy, sy'n teimlo eu bod wedi eu cosbi'n anghymesur o ganlyniad i ddull diweddaraf Llywodraeth Cymru?
Wrth gwrs, yn sail i'r dull newydd, mae'n hanfodol bod busnesau ledled Cymru yn gallu cael gafael ar y cymorth y mae ei angen arnynt. Mae llawer o fusnesau lletygarwch a hamdden yng Nghymru wedi bod o dan ryw fath o gyfyngiad gan y Llywodraeth am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu pryderon ac yn eu helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw a chael gafael arno yn gyflym. Mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir y bydd y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y pecyn newydd hwn ar gael erbyn 11 Rhagfyr a dim ond ym mis Ionawr y bydd y broses ymgeisio'n agor, sy'n gwbl annerbyniol. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gadarnhau pa gyllid brys a fydd ar gael i fusnesau lletygarwch ledled Cymru cyn mis Ionawr, o gofio bod disgwyl iddyn nhw gadw at y cyfyngiadau hyn o ddydd Gwener? Ac o ystyried y datganiad heddiw gan Weinidog yr economi, a yw'n derbyn na fydd rhai busnesau lletygarwch a hamdden yn gallu goroesi tan fis Ionawr ac y dylai'r cymorth hwnnw fod ar gael o ddydd Gwener ymlaen, nid ymhen pedair i bum wythnos?
Fel y gwŷr Aelodau, cyflogir un o bob 10 o'r gweithlu gan fusnesau lletygarwch a byddai llawer yn dibynnu ar fasnach cyn y Nadolig. Mae'r cyhoeddiad hwn yn peryglu'r swyddi hynny ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym ni sut y mae'n bwriadu cefnogi'r bobl hynny sy'n colli eu swydd o ganlyniad uniongyrchol i'r mesur hwn. Mae'r swyddi hyn yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac wrth ymateb i'r datganiad hwn, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn dweud wrthym beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r bobl hynny bydd yn colli eu swydd y gaeaf hwn oherwydd y mesur penodol hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym ni ei bod wedi ymgysylltu â'r sector ac wedi ymgynghori â nhw ar eu cynigion. Fodd bynnag, mae llefarydd ar ran Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru, sy'n cynrychioli atyniadau teuluol ledled Cymru, wedi'i gwneud yn gwbl glir na ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â'u harweinwyr cyn penderfynu ar y mesurau hyn. Siawns na all fod yn dderbyniol i'r Llywodraeth fwrw ymlaen â mesurau a fydd yn arwain at ganlyniadau difrifol i'r sector heb o leiaf ymgynghori â'r sector yn y lle cyntaf.
Llywydd, mae'r sector lletygarwch, adloniant a thwristiaeth yng Nghymru wedi bod mewn cylch diddiwedd o gyfyngiadau gan Lywodraeth Cymru ers misoedd lawer, a bydd y penderfyniad diweddaraf hwn yn golygu na fydd llawer o fusnesau, yn anffodus, yn goroesi. Mae'r Gweinidog Iechyd yn iawn wrth ddweud nad oes cydbwysedd perffaith rhwng diogelu iechyd y cyhoedd a busnes, ond bydd hyn yn cael effaith enfawr ar ein lletygarwch, ein hadloniant a'n busnesau dan do, ac rwy'n annog y Prif Weinidog, yn lle hynny, i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n gwrando ar, ac sy'n deall, pryderon busnesau ledled Cymru, oherwydd nid yw'n rhy hwyr i wrthdroi'r penderfyniad trychinebus hwn.