Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod ein bod ni ym Mhlaid Cymru, wrth gwrs, wedi cefnogi'r Llywodraeth, hyd yn oed yn gwneud dewisiadau anodd pan dŷn ni o'r farn bod y Llywodraeth wedi gwneud y peth iawn. Ac yn gyffredinol, rŷn ni yn credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y peth cywir trwy ddilyn trywydd gofalus ers dechrau'r pandemig, i raddau helaeth iawn yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng gwarchod iechyd y cyhoedd a chymryd i ystyriaeth y niwed ehangach yn economaidd a chymdeithasol sy'n deillio o'r math o gyfyngiadau dŷn ni'n eu trafod nawr. Ond mae'n rhaid inni ddweud yn ddiffuant nawr, Brif Weinidog, rŷn ni yn meddwl eich bod chi yn gwneud camsyniad cyn belled â'r rheoliadau ŷch chi wedi eu cyflwyno ddoe.
Mi oedd yna gamgymeriad arall wedi ein dod â ni i'r pwynt yma, wrth gwrs, a chyfeirio ydw i at y ffordd y gwnaethon ni yng Nghymru lacio'n rhy fuan yn dilyn y cyfnod clo. Dwi'n credu eich bod chi wedi derbyn hynny, ac efallai y gallwch chi roi hynny ar y record. Mae'n rhaid dweud, does dim unrhyw lywodraeth yn y byd sydd ddim wedi gwneud camgymeriadau—gadewch inni fod yn gwbl onest. Y peth pwysig yw dysgu o'r camgymeriadau hynny a hefyd gwrando ar leisiau'r bobl, oherwydd mae ymddiriedaeth y bobl a'u cefnogaeth nhw i'r fframwaith cyffredinol o ran y polisi mor bwysig. Dyna'r erfyn pwysicaf un sydd gennym ni yng Nghymru, a dwi yn annog y Prif Weinidog i wrando ar y lleisiau hynny nawr, oherwydd dwi'n credu bod barn y rhelyw, amrediad o bobl, yn dangos bod y rheoliadau ar hyn o bryd yn annealladwy i bobl Cymru. Mae'n herio rhesymeg o ran y cyfyngiadau sydd wedi cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac mae hynny'n beryg, oherwydd os ydych chi'n colli ffydd ac ymddiriedaeth y bobl, wedyn beth rydych chi'n gweld yw llai o gydymffurfio wedyn gyda rheoliadau eraill, sydd mor bwysig.
O ran tystiolaeth, dwi'n credu ei bod hi ond yn deg i ni sy'n gorfod penderfynu ar y rheoliadau yma i weld y dystiolaeth wedi'i chrisialu. Rydyn ni wedi gweld, wrth gwrs, ddoe yn San Steffan ddogfen 48 o dudalennau o hyd yn dod â'r dystiolaeth ynghyd. Mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at rai papurau SAGE, a dwi wedi bod yn edrych ar bapurau SAGE eraill. Mae yna grynodeb ar y dystiolaeth mor belled ag y mae'r sector lletygarwch yn y cwestiwn wedi cael ei gyhoeddi wythnos ddiwethaf—un tudalen, ar 27 Tachwedd—yn cyfeirio at wahanol gyfarfodydd o SAGE ar 12 Tachwedd, er enghraifft, a dau neu dri o bapurau gan NERVTAG, un o is-bwyllgorau SAGE. Beth sydd angen arnon ni ydy beth gawson ni, wrth gwrs, adeg yr argymhelliad ynglŷn â'r cyfnod clo byr, y toriad tân, sef papur gan TAC yn dod â'r holl dystiolaeth yma ynglŷn â'r union reoliadau rydych chi wedi eu cyflwyno, sef cael gwared â'r hawl i werthu alcohol yn llwyr a chau am 6 o'r gloch. Does bosib bod rhaid inni weld hynny eto nawr, oherwydd, wrth gwrs, bod y wybodaeth a'r ddealltwriaeth ynglŷn â'r feirws yma, yn fyd eang, yn esblygu trwy'r amser. Felly, dyw hyd yn oed cyfeirio at bapurau chwe wythnos yn ôl neu fis yn ôl ddim yn ddigonol er mwyn ein galluogi ni i wneud y penderfyniad cywir.
A gaf i ofyn hefyd inni gael pleidlais yn gynt na'r hyn sy'n cael ei awgrymu ar hyn o bryd? Oherwydd does dim pwynt inni bleidleisio ar hyn ymhen pythefnos os ydyn ni'n wirioneddol yn mynd i gwrdd â'n prif amcan ni fel Senedd, sef gwneud y penderfyniad ymlaen llaw. Unwaith eto, mae yna beryg gwirioneddol, Brif Weinidog, fod ymddiriedaeth y cyhoedd yn mynd i gael ei niweidio oherwydd bod yna ddim cefnogaeth, mae arnaf i ofn. Ac mae'r ffaith ein bod ni, fel plaid sydd wedi cymryd—. Rwy'n gobeithio y byddech chi'n derbyn ein bod ni wedi bod yn gyfrifol yn ein hymagwedd ni tuag at y pandemig, ond mae'n rhaid i fi ddweud, yn hyn o beth, o ran yr argymhellion rydych chi wedi eu rhoi gerbron ar hyn o bryd, rydyn ni wir yn eich annog chi i feddwl eto, er budd pobl Cymru.