Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Llywydd, rwyf yn anghytuno â'r Aelod gymaint yn rhithwir ag y byddwn pe byddwn yn y Siambr gydag ef. Mae'n llwyddo i gamddeall popeth a ddywedir wrtho. Mae wedi gwneud hynny eto y prynhawn yma. Does dim byd y byddaf byth yn ei ddweud a fydd yn ei argyhoeddi ei bod hi'n bosib dod i benderfyniadau yng Nghymru sy'n diwallu anghenion pobl yng Nghymru. Nid yw'n credu yn yr egwyddor sylfaenol. Dyna pam na fydd byth yn bosib ei argyhoeddi o unrhyw sylw synhwyrol, fel y dywedodd, ac ni chlywsom unrhyw un o'r rheini ganddo y prynhawn yma.