Mynediad at Ddeintyddiaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:03, 8 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolchaf i Carwyn Jones am hynna. Rydym ni'n parhau i weithredu proses ailsefydlu gwasanaethau deintyddol yn ddiogel a fesul cam. Mae'r rhan fwyaf o bractisau deintyddol yn darparu ystod lawn o driniaethau i gleifion yng Nghymru erbyn hyn. Fodd bynnag, mae mesurau iechyd cyhoeddus COVID-19 gofynnol yn parhau i fod yn angenrheidiol. Mae ystyriaethau diogelwch yn golygu y gellir trin llai o gleifion mewn unrhyw un sesiwn glinigol.