Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Diolch. Mae gweld grwpiau blwyddyn gyfan yn cael eu hanfon adref i hunanynysu yn siom pan fyddwch chi'n edrych ar ysgolion eraill sy'n rheoli'r sefyllfa yn llawer gwell na hynny, i bob golwg. Fe wn i fod yr Aelod wedi codi'r mater hwn gyda mi, ynghyd ag un neu ddau o gwestiynau eraill sy'n benodol i addysg yn ddiweddar, ac rwyf wedi gofyn i'r Gweinidog Addysg anfon llythyr yn ymateb. Byddaf yn sicrhau ei bod hi'n adolygu trawsgrifiad heddiw i wneud yn siŵr bod y sylwadau a wnaethoch yn cael eu crybwyll yn yr ymateb ysgrifenedig hwnnw hefyd.