Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Diolch i Suzy Davies am godi'r mater yna. Fe fyddaf i'n sicr o siarad â'r Gweinidog Addysg i ofyn am rywfaint o eglurder ynglŷn â'r cwestiynau penodol hynny sy'n ymwneud â rhai o agweddau ymarferol trefniadau myfyrwyr wrth iddyn nhw adael i fynd adref dros y Nadolig, ond hefyd o ran y trefniadau ar gyfer dychwelyd i'r campws. Felly, fe fyddaf i'n siŵr o wneud hynny.