Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Diolch. Ymddiheuriadau. Croesawaf yn fawr y datganiad a wnaethpwyd gan Jenny Rathbone, yn enwedig ei sylwadau am fioamrywiaeth ac ansawdd aer. Ar dudalennau 79 ac 80 o'r adroddiad, gwneir rhai datganiadau cryf iawn ynghylch manteision gweithredu'r argymhellion o ran ansawdd aer a bioamrywiaeth, yn enwedig ar dudalen 80, a dyfynnaf:
Byddai ein hargymhellion yn helpu i liniaru'r problemau hyn ac yn cyfrannu at gydymffurfio â'r safonau ansawdd aer yn yr ardaloedd allweddol hynny lle mae lefelau nitrogen deuocsid wedi bod yn ormodol. Ac, wrth gwrs, os ydym ni eisiau hyrwyddo'r newid tuag at fathau eraill o drafnidiaeth, byddem hefyd yn gweld rhai o'r ceunentydd carbon hynny, fel y cyfeirir atyn nhw yn aml, yng Nghaerdydd ei hun, gyda chrynodiadau llai o allyriadau a gronynnau gwenwynig. Ac, felly, mae'r adroddiad mewn gwirionedd yn cyflwyno achos grymus iawn dros weithredu'r argymhellion, ar sail nid yn unig lliniaru tagfeydd, ond hefyd o ran gwella ansawdd aer.
Ac o ran bioamrywiaeth, unwaith eto, mae paragraff 366, ar dudalen 80, yn nodi:
Nid ydym yn rhagweld y byddai unrhyw un o'n hargymhellion yn amharu ar unrhyw un o'r safleoedd amgylcheddol dynodedig yn y rhanbarth.... I'r gwrthwyneb, dylai lleihau effaith ceir ac allyriadau cerbydau ar yr ardaloedd hyn ddod â manteision i fioamrywiaeth a'r amgylchedd dŵr.
Fy marn i yw bod yr adroddiad yn cyflawni'n dda o'i gymharu â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o ran y ffyrdd o weithio, o ran yr angen i gydnabod arwyddocâd yr amgylchedd, yr angen i sicrhau ein bod yn gwneud ein cyfraniad llawn at herio'r argyfwng hinsawdd. Ac yn ogystal, mae'r adroddiad hefyd yn cyflwyno sawl dadl rymus iawn o ran mynd i'r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol yn y rhanbarth, drwy fuddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
O ran y rheilffordd, fel y disgrifiodd Jenny Rathbone—ac mae'n ddisgrifiad addas iawn—mae hyn eisoes wedi'i grybwyll droeon wrth Network Rail. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt, a byddaf yn sôn bod angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn yr argymhellion ar gyfer ei huwchraddio yn ddiweddarach yr wythnos hon, pan fyddaf yn cymryd rhan yn y cyfarfod pedairochrog gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU a chyda chymheiriaid o'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Fel y dywedais wrth siaradwyr eraill, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi derbyn yr adroddiad hwn a'r argymhellion gyda diddordeb mawr. Fy mhenderfyniad i yw bod y diddordeb hwnnw'n cael ei droi'n ymrwymiad, ymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd yn y de-ddwyrain ac i alluogi'r pedair llinell drac hynny i wasanaethu nid yn unig teithiau hir sy'n cysylltu dinasoedd â'i gilydd, ond hefyd gwasanaethau cymudo rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste.