4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:34, 8 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gaf i groesawu'n fawr iawn yr ymagwedd gadarnhaol yn eich datganiad tuag at y newidiadau a'r mentrau? Un o'r peryglon yr wyf wedi'i ganfod bob amser yw po fwyaf y byddwch yn dibrisio ardal, y mwyaf y daw'n broffwydoliaeth sy'n gwireddu ei hun. Pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad dros Bontypridd am y tro cyntaf, oedais cyn ymweld â busnesau a dweud, 'Sut mae pethau?' oherwydd byddech wedyn yn cael araith lem. Ond rydym ni wedi siarad yn frwdfrydig am Bontypridd, sy'n dref graidd i'r Cymoedd, a chyda'r mentrau gan Lywodraeth Cymru a chyda'r cyngor lleol, gallwch weld y trawsnewid economaidd sy'n digwydd.

O ystyried yr amser cyfyngedig sydd gennyf, a gaf i ofyn hyn, Gweinidog? Un o'r agweddau allweddol ar adfywio yw trafnidiaeth yn amlwg. Mae gennym ni rai systemau trafnidiaeth reilffyrdd effeithiol iawn sy'n datblygu ac yn cael eu gwella, ond mae cydgysylltu bysiau â'n system drafnidiaeth yn gwbl sylfaenol. Mae gormod o'n cymunedau heb fynediad angenrheidiol at gyflogaeth na mathau eraill o ymgysylltu, ac mae hynny'n allweddol i adfywio economaidd. Sut ydych chi'n gweld y system drafnidiaeth yn dod yn rhan o fenter y Cymoedd ac yn cyflawni'r amcanion hynny yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld yn digwydd?