Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Hoffwn, os caf i, dalu teyrnged i'r ffordd y mae arglwyddi o bob rhan o'r Tŷ wedi bod yn barod i weithio'n galed gyda ni i amddiffyn y setliad datganoli, y mae Llywodraeth y DU yn ymddangos yn barod i'w chwalu. Yn benodol, hoffwn ddiolch i'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, y Farwnes Finlay o Landaf, yr Arglwydd Wigley a'r Arglwydd Bourne o Aberystwyth, yn ogystal â meinciau blaen yr wrthblaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae'n ymddangos yn sicr y bydd y Bil a gyflwynir i gael Cydsyniad Brenhinol ymhen ychydig ddyddiau yn niweidiol iawn i'r Senedd hon ac i'n cenedl. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cyllid i gyd wedi cydnabod yn eu hadroddiadau effaith niweidiol iawn y Bil hwn ar ddatganoli, i'r graddau bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi torri cynsail i argymell na ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad.
Gadewch imi roi pum rheswm yn unig pam, fel Llywodraeth, y credwn ni y dylai pob Aelod o'r Senedd hon bleidleisio yn erbyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Yma, hoffwn yn arbennig gyfeirio fy sylwadau at feinciau'r Ceidwadwyr. Yn gyntaf, pam fyddai unrhyw Aelod o'r Senedd hon a etholwyd i wneud penderfyniadau ar faterion datganoledig sy'n adlewyrchu barn y rhai sy'n eu hethol yn cytuno i ddeddfwriaeth sy'n ysbaddu eu gallu i wneud yr union beth hwnnw? Mae egwyddorion mynediad i'r farchnad yn golygu y gellir gwerthu unrhyw gynnyrch yn gyfreithlon sy'n cael ei werthu'n gyfreithlon mewn unrhyw ran o'r DU; p'un a yw'n cydymffurfio â safonau yma yng Nghymru ai peidio, mae'n rhaid iddi fod yn bosibl i'w roi ar y farchnad yma. Ni allwn hyd yn oed fynnu ei fod yn cael ei labelu'n wahanol.
Nid yw hyn yn ymwneud ag achosion damcaniaethol yn unig. Fel y gŵyr Aelodau, rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar wahardd naw math o blastig untro yng Nghymru. Nid ydym ni wedi cwblhau'r dadansoddiad o'r ymatebion eto, felly ni fyddwn yn rhagfarnu pethau, ond pe byddem yn penderfynu—neu'r Llywodraeth newydd yn nhymor newydd y Senedd, yn fwy tebygol—eu bod yn dymuno gwneud hynny, ni allai hynny ddigwydd yn ystyrlon pe bai'r Bil hwn yn cael ei ddeddfu.
Gadewch imi ddyfynnu Gweinidog y Llywodraeth, yr Arglwydd True, yn Nhŷ'r Arglwyddi bythefnos yn ôl:
Bydd cyfyngiadau newydd ar werthu nwyddau, gan gynnwys nwyddau a wneir o blastig a gynhyrchir mewn un rhan o'r DU neu a fewnforir i un rhan o'r DU, yn ddarostyngedig i'r egwyddor cydnabod cydfuddiannol ar gyfer nwyddau oni bai fod gwaharddiad yn berthnasol.
Ni cheir nwyddau a werthir yn gyfreithlon mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig eu rhwystro rhag cael mynediad i rannau eraill o farchnad y DU oni bai fod gwaharddiad yn berthnasol. Wrth gwrs, nid yw'n ofynnol i ddefnyddwyr eu prynu.
Mae'n osgoi'r pwynt i raddau bod angen gwybodaeth ar ddefnyddwyr i wneud dewisiadau, a byddai'r cyfyngiadau yn erbyn labelu yn y Bil, wrth gwrs, yn atal hynny.
Yn ail, ystyriwch y pwerau cymorth ariannol sydd wedi'u gwthio i mewn i'r Bil, yr unig beth sy'n gyffredin rhyngddyn nhw a'r rhannau sy'n weddill yw eu bod yn adlewyrchu'r un bwriad o danseilio datganoli. Mynegodd y Pwyllgor Cyllid bryderon difrifol am y darpariaethau hyn yn huawdl. Bydden nhw'n galluogi Gweinidogion y DU i ariannu ymyriadau yng Nghymru mewn meysydd polisi cwbl ddatganoledig mewn ffyrdd sy'n osgoi, neu hyd yn oed yn gwbl groes, i'r agenda wleidyddol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru.
Hoffwn ddyfynnu Ceidwadwr arall, yr Arglwydd Dunlop, cyn-Weinidog Swyddfa'r Alban a Swyddfa Gogledd Iwerddon:
os yw'r pŵer yn y Bil i fod yn gwbl effeithiol, bydd yn bwysig i Lywodraeth y DU weithio mewn partneriaeth, nid gwrthdaro, gyda Gweinyddiaethau datganoledig a chynrychiolwyr cymunedau lleol ledled y gwledydd datganoledig. Byddai'n gam yn ôl...pe bai Gweinidogion yn ceisio disodli blaenoriaethau lleol â blaenoriaethau'r canol, heb eu llywio gan safbwyntiau lleol. Yn fy mhrofiad i, nid yw'r ddihareb 'Y dyn yn Whitehall sy'n gwybod orau' byth yn un boblogaidd, ac yn sicr ni fydd yn boblogaidd iawn yn yr Alban, dywedodd. Nac yng Nghymru ychwaith, dywedaf i.
Mae digon o ffyrdd y bydd Llywodraeth Geidwadol eisiau rhwystro blaenoriaethau Llywodraeth Lafur Cymru, ond dychmygwch Lywodraeth Geidwadol yn y dyfodol yn y Senedd hon—nid syniad yr wyf yn ei hoffi—eisiau cymryd camau a Llywodraeth fwy rhyddfrydol yn San Steffan yn gwrthod yr agenda honno. Rwy'n siŵr na fyddai Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ystyried hynny'n dderbyniol.
Yn drydydd, mae Llywodraeth y DU wedi honni nad yw'r Bil yn cynnwys cyfyngiadau newydd, ac, yn wir, ei fod yn creu pwerau datganoledig newydd. Hoffwn adrodd i'r Siambr fy mod yn dal i aros i rywun ddangos i mi pa gymal sy'n cryfhau pwerau'r Senedd hon. Ni fydd aelodau'n synnu o glywed nad yw hynny wedi'i nodi. Mae cymal 50 yn gosod yn benodol mater newydd a gedwir yn ôl o ran cymorth gwladwriaethol a chymorthdaliadau yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—cyfyngiad newydd a ffres ar bwerau'r Senedd hon.
Yn bedwerydd, Dirprwy Lywydd, nid yw fel pe baem ni heb geisio cyflwyno dull amgen o sicrhau'r farchnad fewnol mewn ffordd greadigol sy'n ystyried unrhyw bryderon dilys. Rydym ni wedi cynnig dull sy'n rhoi'r fframweithiau cyffredin wrth wraidd y farchnad fewnol, ond sy'n rhoi'r hawl i Lywodraeth y DU ofyn i Senedd y DU gyflwyno egwyddorion mynediad i'r farchnad yn y gyfres gul o amgylchiadau fel cam wrth gefn pan fo'r pedair Llywodraeth wedi methu dod i gytundeb. Ceir fframweithiau cyffredin i alinio, parchu datganoli, wrth alluogi marchnad fewnol gystadleuol. Mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y dull hwn yn dystiolaeth huawdl o'r ffaith nad oes gan eu cymhelliant i gyflwyno'r Bil hwn, a pharhau yn wyneb gwrthwynebiad mor eang, fawr ddim i'w wneud â phryderon busnesau a phopeth i'w wneud â'r awydd i ganoli grym a chloffi rhyddid y Senedd hon i wneud y gwaith y cafodd ei hethol i'w wneud.
A dyma'r pumed rheswm: y cliw cliriaf sydd ei angen i ddangos bod y ddeddfwriaeth hon wedi'i bwriadu nid yn gymaint fel rheoleiddiad y farchnad, ond yn hytrach deddfwriaeth gyfansoddiadol, yw'r gwaharddiad cyffredinol ar draws y Bil cyfan drwy'r cymalau deddfu gwarchodedig—eithrio pŵer y Senedd hon i addasu unrhyw agwedd arni, p'un a yw wedi'i datganoli ai peidio. Nid yw'n gyfyngiad, wrth gwrs, sy'n berthnasol i Senedd y DU. Mae'n eithriad gwirioneddol i Fil yn ei gyfanrwydd gael ei roi y tu hwnt i gyrraedd y Senedd. Mae'n Fil sy'n honni ei fod yn ymwneud ag egwyddorion y farchnad, ond sydd mewn gwirionedd yn ymosodiad llechwraidd ar y cyfansoddiad. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod hynny'n warthus.
Dirprwy Lywydd, mae'r Bil hwn yn ymosodiad ar ddatganoli, nid oes ganddo le o ran rheoleiddio'r farchnad fewnol, nid oes ganddo le yng nghyfansoddiad modern, datganoledig y Deyrnas Unedig, a bydd yn cyflymu'r broses o chwalu'r undeb os daw'n gyfraith. Anogaf holl Aelodau'r Senedd i wrthod y cynnig a gwrthod rhoi cydsyniad i'r Bil.