Part of the debate – Senedd Cymru am 12:30 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser gen i i siarad yn y ddadl yma ar ran y pwyllgor, ac o ystyried arwyddocâd y ddeddfwriaeth yma, fe wnaethom ni fel pwyllgor archwilio'r ystyriaethau ariannol sydd ynghlwm wrth y Bil gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac fe ddaeth y pwyllgor i'r casgliad mwyafrifol y byddai'r goblygiadau cyfansoddiadol ac ariannol a fyddai'n deillio o basio'r Bil marchnad fewnol ar ei ffurf wreiddiol yn tanseilio'r setliad datganoli, gan arwain at y posibilrwydd hefyd o leihau'r cyllid sydd ar gael trwy grant bloc Cymru.
Nawr, er ein bod ni wedi croesawu approach Llywodraeth Cymru o geisio cefnogaeth drwy Dŷ'r Arglwyddi ar gyfer eu gwelliannau enghreifftiol i'r Bil, fe wnaethon ni dynnu sylw at ein pryder y gallai newidiadau a wnaethpwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi gael eu newid yn ôl ar ôl i'r Bil ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin, a dyna'n wir ddigwyddodd pan adferwyd gan Dŷ'r Cyffredin rai o agweddau ariannol y Bil a gafodd eu newid gan Dŷ'r Arglwyddi.
Mae gennym ni, felly, nifer o bryderon am y Bil fel y mae'n sefyll, ac mi restraf i rai ohonyn nhw nawr yn fy nghyfraniad i y prynhawn yma. Yn gyntaf, mae'r posibilrwydd y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwario mewn meysydd datganoledig, a hynny mewn ffordd, wrth gwrs, sydd ddim yn gydnaws â bwriadau strategol Llywodraeth Cymru. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthym ni y byddai modd defnyddio'r pwerau cymorth ariannol yn y Bil at ddibenion eang iawn, gan gynnwys o fewn meysydd datganoledig. Fe wnaeth yr Arglwyddi ddileu'r cymal hwn, ond, wrth gwrs, mae e wedi ei adfer yn Nhŷ'r Cyffredin erbyn hyn. Ein barn ni yw nad yw'r pwerau hyn yn angenrheidiol, ac rŷn ni'n credu y byddan nhw'n tanseilio penderfyniadau gwariant sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru.
Roedd Rhan 6 o'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ariannu unrhyw berson yn uniongyrchol ar ystod eang o faterion sydd o fewn cymhwysedd datganoledig ar hyn o bryd. Roedd y pwyllgor yn poeni am oblygiadau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn meysydd datganoledig i grant bloc Cymru a'r posibilrwydd pryderus y bydd y gwariant hwn yn cael ei ariannu trwy 'top-slice-o' y grant bloc. Er y cytunwyd ar welliant yn Nhŷ'r Arglwyddi i dynnu cymal 42 o'r Bil, mae pryderon yn parhau ynghylch bwriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y cenhedlodd datganoledig.