Part of the debate – Senedd Cymru am 12:55 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
O ran ei effaith ar y gweinyddiaethau datganoledig, credaf ei bod yn bwysig nodi yma fod y Bil mewn perygl o’i gwneud yn llawer anoddach i arfer pwerau datganoledig, ac wrth eu harfer y mae pwerau'n arwyddocaol. Gallant fodoli'n dybiannol, ac mae llawer o bobl wedi cyfeirio at y 70 o bwerau ychwanegol yn ôl pob sôn a fydd yn dod inni wrth iddynt gael eu symud o Frwsel, ond os na ellir arfer y pethau hyn oherwydd fframwaith cyffredinol maes polisi penodol, neu am ei bod yn anoddach arfer polisïau sy'n bodoli'n barod—er enghraifft, sut rydym yn rheoleiddio'r farchnad dai a darpariaeth gwasanaethau gan landlordiaid, er enghraifft, neu asiantau landlordiaid—mae hynny'n dangos yn glir sut y gall gael effaith wrth lunio polisïau domestig.
Credaf y byddai’n well pe bai Llywodraeth y DU wedi trin y Bil hwn fel y cyntaf o nifer o Filiau cyfansoddiadol a allai fod yn angenrheidiol i gryfhau cyfanrwydd y DU. Gresynaf nad hyn fu ei ffocws. Wrth gwrs, i fod yn llwyddiannus, mae angen i Fil cyfansoddiadol fod wedi’i ddrafftio gan weinyddiaethau datganoledig sy’n cydweithio, neu o leiaf, eu bod wedi cael pob cyfle i ymuno â’r ymdrech honno. Nawr, nid wyf yn ddigon naïf i dybio bod Llywodraeth yr Alban erioed yn debygol o’i gefnogi, ac mae rhesymau clir am hynny, ond gallent fod wedi cyfrannu o hyd at broses nad oeddent yn cytuno'n llwyr â hi neu’n barod i’w chefnogi yn y pen draw. Ond ni ddylid diystyru gwrthwynebiad gan Lywodraeth Lafur Cymru unoliaethol ar chwarae bach. Mae'n canu larwm.
Lywydd, mewn sawl ffordd, roedd Brexit yn ymwneud â'r ymateb i'r farchnad sengl a’r broses o'i rheoleiddio, a'r cyhuddiad fod y rheoliadau hynny'n aml yn rhwystro sofraniaeth ddomestig rhag cael ei harfer. Serch hynny, yr hyn rydym wedi'i gynnig heddiw yw marchnad fewnol sy'n llawer mwy canolog na'r farchnad sengl Ewropeaidd, a heb egwyddorion sybsidiaredd a chymesuredd sy'n rhoi cwmpas llawn i’r gwaith o wneud penderfyniadau lleol dilys o fewn marchnad sengl—neu gwmpas mor llawn â phosibl. Nid ydym yn mynd i gael hynny, a chredaf ei bod yn eironig fod uwch aelodau o fy mhlaid a gefnogodd Brexit gyda'r fath frwdfrydedd a llwyddiant bellach yn cymhwyso ac yn lluosi'r egwyddorion a gondemniwyd ganddynt yng nghyd-destun y farchnad sengl Ewropeaidd.
A gaf fi gloi drwy ddweud bod y Bil hwn, drwy baratoi'r ffordd i dorri cyfraith ryngwladol, yn amlwg yn anghydnaws? Nawr, rwy'n deall, er gwaethaf penderfyniad Tŷ'r Cyffredin i ailgyflwyno’r cymalau sy'n caniatáu torcyfraith rhyngwladol—dywed Tŷ’r Cyffredin fod yn rhaid eu hailgyflwyno ar ôl i Dŷ’r Arglwyddi eu tynnu allan—deallaf fod y Llywodraeth wedi nodi nawr na fydd yn gwrthwynebu i Dŷ’r Arglwyddi dynnu'r cymalau hynny eto, ac felly bydd y staen hwnnw, o leiaf, wedi’i ddileu o'r Bil hwn. Ond credaf fod yn rhaid bod y ffaith i'r bygythiad hwnnw gael ei wneud erioed yn peri cryn bryder i'r gweinyddiaethau datganoledig, a gallu Llywodraeth Prydain i negodi mewn ffordd sy'n ennyn ymddiriedaeth ac yn llawn ac na allai gyflawni’r bygythiadau sylfaenol hyn. Yn hyn o beth yn unig, credaf fod y Bil hwn ar y tu allan i draddodiadau'r Blaid Geidwadol yn rhyfedd ddigon pan edrychwch ar Churchill a Maxwell Fyfe, a wnaeth gymaint i sefydlu normau cyfraith ryngwladol ar ôl yr ail ryfel byd. Gyda chryn anfodlonrwydd, Lywydd, mae'n rhaid imi ddweud wrth y Siambr a fy mhlaid fy hun y byddaf yn pleidleisio yn erbyn rhoi ein cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil hwn.