Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig: Parhad

Part of the debate – Senedd Cymru am 12:48 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 12:48, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Ac mae pobl Cymru, wrth gwrs, wedi penderfynu beth sydd orau iddynt hwy, ac maent wedi ethol y Senedd hon.

Mae'r Bil hwn, y gobeithiaf—[Torri ar draws.]—y gobeithiaf y bydd y Senedd hon yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol iddo, yn un o’r enghreifftiau mwyaf anonest a dinistriol o ddeddfwriaeth i mi fod yn ddigon anffodus i'w darllen yn fy amser yn y byd gwleidyddol. Maent yn nodi dau amcan clir ar gyfer y ddeddfwriaeth hon: cynnal y farchnad sengl, a galluogi busnesau i weithredu ledled y Deyrnas Unedig. Yna dywedant fod arnom angen y Bil hwn er mwyn buddsoddi yng Nghymru a'r Alban. Nawr, nid yw'r amcanion hynny'n amcanion y byddai unrhyw un yma, ar unrhyw ochr i’r Siambr hon, yn eu gwrthwynebu. Rydym am weld busnes yn croesi ffiniau Cymru. Rydym am weld buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, ac nid oes angen y Bil hwn arnoch i gyflawni unrhyw un o'r amcanion hynny. Nid yw'n ymwneud â'r amcanion hynny, nid yw'n ymwneud â'r farchnad sengl, ac nid yw'n ymwneud â buddsoddiad. A dywedaf wrth Darren Millar, a wnaeth ei orau drwy ei ddannedd yn gynharach i gyfiawnhau'r sothach hwn—ei bod yn bosibl i Lywodraeth y DU fuddsoddi yng Nghymru heddiw. Ystyriwch gyllid rheilffyrdd, er enghraifft. Gallent fuddsoddi mewn cyllid rheilffyrdd heddiw, ond nid ydynt yn gwneud hynny, ac nid yn unig nad ydynt yn buddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, ond maent yn newid y fformiwla i olygu y byddant yn buddsoddi llai yn y dyfodol. Felly, pe baent am fuddsoddi yn ein—[Torri ar draws.] Mae'n ffaith. Pe baent am fuddsoddi yn ein seilwaith, gallent wneud hynny heddiw, gallent wneud hynny yfory, gallent fod wedi gwneud hynny ddoe. Fe wnaethant ddewis peidio â gwneud unrhyw un o'r pethau hynny. Ac mae'r adolygiad o wariant a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl yn dilyn blynyddoedd o danariannu o'r fath.

Addawyd y gronfa ffyniant gyffredin inni. Nid ydym wedi’i gweld o hyd. Nid ydym wedi gweld ceiniog o'r punnoedd a addawyd i Gymru. Nid yw'r sail y’i crëwyd arni’n eglur o hyd i unrhyw un ohonom, a dywedaf wrth Darren Millar fy mod i’n un o'r Gweinidogion a negododd gyllid Ewropeaidd ym Mrwsel, a bod y broses honno'n llawer mwy tryloyw, yn llawer mwy agored, yn llawer mwy democrataidd na'r hyn sydd gennym heddiw, pan fo Senedd y DU yn gorfodi ei hewyllys ar y Senedd hon i bob pwrpas. Os oes unrhyw un yma’n credu bod y toriadau mewn taliadau amaethyddol a welsom yr wythnos diwethaf yn gwneud unrhyw beth heblaw dinistrio'r diwydiant yn llwyr, mae angen iddynt wrando ar yr hyn y mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru yn ei ddweud.

Gadewch imi ddweud hyn ynglŷn â’r farchnad sengl: mae hwn yn ateb sy’n chwilio am broblem. Nid oes unrhyw broblem gyda busnesau’n masnachu'n drawsffiniol—dim o gwbl. Gellir rheoli'r farchnad sengl yn hawdd gan bedair Llywodraeth sy'n gweithio gyda'i gilydd o fewn y fframweithiau cyffredin o dan oruchwyliaeth pedair deddfwrfa. Mae hynny'n digwydd ar hyn o bryd, gallai ddigwydd yn y dyfodol, ond yr hyn na fyddai'n digwydd o dan y system honno, wrth gwrs, yw na fyddai'r Torïaid yn cael yr hyn y maent yn ei ddymuno. Ni fyddent yn cael eu ffordd eu hunain, oherwydd mewn democratiaeth mae angen iddynt ennill etholiadau, ac yng Nghymru, maent wedi bod yn brin o lwyddiant gyda hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Pan fo pobl Cymru’n cael cyfle i bleidleisio, nid ydynt yn ethol Llywodraeth Geidwadol, ac ni chredaf y byddant byth yn gwneud hynny.

Gwrandewais ar Laura Anne Jones. Safodd ym Mlaenau Gwent flwyddyn yn ôl, a llwyddo i gael 18 y cant o'r bleidlais. Os yw'n dymuno sefyll ym Mlaenau Gwent ym mis Mai, rwy'n fwy na pharod i'w thywys o gwmpas yr etholaeth, ond gallaf ddweud wrthych nawr na fydd pobl Blaenau Gwent yn ethol Tori ym mis Mai nac ar unrhyw adeg arall.

Ac yn olaf, gadewch imi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Ac yn olaf, gadewch imi ddweud hyn: nid oes a wnelo hyn â'r farchnad sengl, nid oes a wnelo hyn â busnes, nid oes a wnelo hyn â Brexit, nid oes a wnelo hyn â buddsoddiad y DU; mae'n ymwneud ag un peth ac un peth yn unig—mae'n ymwneud â gorfodi pŵer gwleidyddol i danseilio democratiaeth Gymreig. Dyna hanfod y Bil hwn, a dyna mae'r Bil hwn yn ceisio'i gyflawni. Ac mae hyn yn hollbwysig i ni. Dywedaf hyn wrthych, Lywydd: mae'n bwysig fod pob un ohonom, ni waeth ble rydym yn eistedd yn y Siambr hon, yn cynnal hawliau a breintiau'r Senedd hon, ac yn cynnal buddiannau'r hyn y mae pobl Cymru wedi pleidleisio drosto. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio i'r Senedd hon gael y pwerau hyn. Mae'r pwerau hyn yn cael eu cipio oddi wrth y Senedd hon heb gyfeirio at y Senedd hon, a dywedaf hyn wrth fy mainc flaen fy hun: bydd datganoli wedi marw os bydd hwn yn cyrraedd y llyfr statud, gan fod datganoli’n dibynnu ar Senedd y DU yn cydnabod ac yn parchu mandadau’r Seneddau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Os bydd y pwerau’n cael eu cipio oddi wrthym heb ein cydsyniad, ac os bydd y Bil hwn a'i ddarpariaethau'n cael eu gorfodi ar bobl Cymru heb eu cydsyniad hwythau, mae'n amlwg i mi nad yw strwythurau democrataidd y Deyrnas Unedig, y strwythurau democrataidd datganoledig rydym wedi eu mwynhau dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn gynaliadwy mwyach, ac nad yw democratiaeth y Deyrnas Unedig yn gynaliadwy mwyach. A chredaf y dylid tynnu’r Bil hwn yn ôl, ni ddylem roi ein cydsyniad ar ei gyfer, ac os bydd y Torïaid yn bwrw ymlaen ac yn tanseilio ein democratiaeth, mae angen inni ddod o hyd i setliad cyfansoddiadol ar gyfer y dyfodol sy’n diogelu nid yn unig hawliau’r Senedd hon, ond hawliau’r bobl a'i hetholodd.