Part of the debate – Senedd Cymru am 1:10 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch i Joyce Watson am ei haraith; cyfeiriodd yn ôl at refferendwm 2011 a deddfu yn yr 20 maes hyn. Wrth gwrs, roedd hynny'n ddarostyngedig i brif gyfraith yr Undeb Ewropeaidd—nid oedd yn gwrthwynebu hynny, ond mae'n gwrthwynebu cyfyngiadau llai ar lefel y DU. Hefyd, ni wnaeth ein hatgoffa bod y papur pleidleisio yn y refferendwm hwnnw'n nodi, 'Ni all y Cynulliad hwn ddeddfu ar drethiant, beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon'. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog a thri Chadeirydd y pwyllgorau—a Dai Lloyd yn benodol, os caf—am eu hareithiau, am fy atgoffa a phwysleisio pa mor dda yw’r Bil hwn? Rwyf mor falch o’i gefnogi heddiw. Ceir tri maes craidd, rwy'n credu; soniodd y Gweinidog am bump, ond rwyf am gyfyngu fy hun i dri.
Yn gyntaf, mae Llywodraeth y DU yn mynd i gael caniatâd penodol i wario arian mewn mwy o feysydd yng Nghymru; rhaid bod hynny'n beth da. Mae eraill yn gwrthwynebu gan y gallai gyfyngu, mae'n debyg, ar y ffordd y maent yn rheoli polisïau. Efallai y bydd Llywodraeth y DU yn ariannu ysgolion rhydd neu academïau ac yn caniatáu i rieni a'u plant gael mwy o ddewis o ran addysg yng Nghymru. Mae rhai Aelodau'n cyfeirio at barchu ymrwymiadau maniffesto, ond wrth gwrs, ni allai gwariant Llywodraeth y DU mewn perthynas â ffordd liniaru’r M4 wneud dim ond cyflawni ymrwymiad a wnaeth Llywodraeth Cymru cyn ei dorri. Credaf y dylem groesawu'r posibilrwydd o fwy o wariant gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys o'r gronfa ffyniant gyffredin.
Yn ail, mynediad at y farchnad a chydnabyddiaeth gilyddol—egwyddorion rhagorol. Rwy’n anghytuno â David Melding a’i gyfeiriadau at wrthwynebiadau’r Torïaid i farchnad sengl yr UE a’u dyblygu drwy’r ddeddfwriaeth hon. Y gwrthwyneb sy'n wir. Yr hyn a welsom yn yr Undeb Ewropeaidd oedd deddfwriaeth marchnad sengl a arweiniodd at gysoni rheolau o'r brig i lawr ym mhob un o'r 27 gwlad, gan ddweud na allwch werthu rhywbeth oni bai ei fod yn cadw at un rheoliad canolog. Yr hyn y mae'r Bil marchnad fewnol yn ei wneud yw dychwelyd at ddull llawer gwell a weithredwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ei hun o ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop 1979 yn Cassis de Dijon, sef, yn y bôn, os bydd rhywbeth yn bodloni rheoliadau'r wladwriaeth lle cafodd ei wneud, yna gellir ei werthu ym mhob aelod-wladwriaeth—mynediad at y farchnad ac egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol. Credaf fod hynny i’w groesawu’n fawr, ac os yw'n arwain at fethu deddfu i wahardd pobl yng Nghymru rhag prynu pethau y gall pobl yn Lloegr eu prynu, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu hefyd.
Mae'r trydydd maes, sef cymorth gwladwriaethol a mesur o reolaeth dros gymorth gwladwriaethol gan Lywodraeth y DU, unwaith eto'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. Yn gyffredinol, rydym wedi cael llai o gymorth gwladwriaethol yn y DU nag sy'n arferol ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn siŵr pam ei fod yn gymaint o faen tramgwydd i'r Undeb Ewropeaidd yn y trafodaethau hyn. Rwy’n clywed llawer o bobl yn y Siambr hon, yn enwedig ymhlith siaradwyr Llafur a Phlaid Cymru, yn cwyno am unrhyw drosolwg gan y DU ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud o ran cymorth gwladwriaethol, yn yr un modd ag y gwnaeth Joyce Watson ynghylch deddfwriaeth yn yr 20 maes hynny, ond ni wnaethant erioed ei wrthwynebu pan oedd yn dod o'r UE. I mi, mae hynny'n dangos bod llawer o bobl sy'n dod o'r traddodiadau gwleidyddol hynny, a dweud y gwir, yn gwrthwynebu’r DU i’r un graddau ag y maent o blaid yr UE, a chredaf fod hynny wedi'i amlygu ddoe gan sylwadau gwarthus gan Weinidog y Llywodraeth wrth ymosod ar Ddug a Duges Caergrawnt. Mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru a gweithredoedd y Senedd hon sy'n bygwth y Deyrnas Unedig, nid y Bil marchnad fewnol, ac os bydd, i ryw raddau, am y tro cyntaf, yn gwthio rhai pwerau y gallent fod wedi’u datganoli fel arall yn ôl i lefel y DU, mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu, a chredaf y bydd pobl Cymru’n ei groesawu.
Byddaf yn pleidleisio dros y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Mewn rhai ffyrdd, serch hynny, os byddaf yn colli’r bleidlais honno, bydd hynny ynddo'i hun yn beth da, gan y byddwn wedyn yn gweld Llywodraeth y DU yn gorfodi’r Bil hwn a byddwn, gobeithio, yn gallu cefnu ar gonfensiwn Sewel.