Part of the debate – Senedd Cymru am 1:06 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Mae'r Bil marchnad fewnol yn gwneud un peth, ac un peth yn unig—mae'n ceisio gwyrdroi canlyniad y refferendwm ac anwybyddu ewyllys y bobl. Yn 2011—ac mae ambell un wedi cyfeirio at hyn heddiw—gofynnwyd cwestiwn uniongyrchol i ddinasyddion Cymru, sef,
'A ydych yn dymuno i'r Cynulliad—' fel y’i gelwid bryd hynny—
'allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?'
Dywedodd bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr 'ydw'. Golygai’r canlyniad y gallai'r Cynulliad hwn lunio deddfau ar bob mater yn y meysydd pwnc hynny heb fod angen cytundeb Senedd y DU. Byddai'r Bil marchnad fewnol yn gwrthdroi’r penderfyniad hwnnw ac yn tanseilio gallu Llywodraeth Cymru a’r Siambr hon i ddeddfu.
Mae’r newyddion o Rif 10 ddoe yn awgrymu y gallai Llywodraeth San Steffan gael gwared ar y cymalau o’r Bil sy’n torri cyfraith ryngwladol os gellir dod i gytundeb gyda’r UE. Ond fel y saif pethau, mae'r Bil marchnad fewnol yn gwneud Brexit 'heb gytundeb' yn fwy tebygol. Yn Sir Benfro, rydym eisoes wedi cael ergyd yn sgil Brexit. Mae’r cwmni llongau o Ddenmarc, DFDS, wedi cyhoeddi fferi uniongyrchol newydd o Iwerddon i Ffrainc, gan osgoi ein porthladdoedd. Mae honno'n ergyd enfawr i'r economi leol ac mae'n arwydd gofidus o’r hyn sydd o’n blaenau.
Byddai Brexit 'heb gytundeb' yn drychineb ac yn addewid arall y mae’r Torïaid wedi’i dorri. Ni fu cytundeb parod i'w bobi erioed; roedd yn syniad hanner pan, yn union fel ymrwymiad maniffesto'r Ceidwadwyr i ffermwyr Cymru a addawodd, ac rwy'n dyfynnu, warantu cyllideb flynyddol bresennol y Polisi Amaethyddol Cyffredin i ffermwyr ym mhob blwyddyn yn y Senedd nesaf.
Yn lle hynny, maent wedi dwyn £95 miliwn oddi ar ffermwyr Cymru. Ceisiodd Aelodau Ceidwadol roi sglein ar y ffaith a cheisio taflu llwch i lygaid eu hetholwyr, ond diwedd y gân—ac mae cyfrifiadau Undeb Amaethwyr Cymru yn profi hyn—yw bod hyn—[Torri ar draws.]