5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:15, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i gyd-gyflwynwyr y ddadl heddiw, Leanne Wood a Bethan Sayed. Rwy'n gwybod bod swyddfa Bethan wedi cyhoeddi ymchwil werthfawr iawn i'r maes hwn, ond mae hi hefyd yn dod â phersbectif personol hanfodol i'r pwnc hwn ar ôl cael babi ei hun yn ystod y cyfyngiadau. Rwyf hefyd am gydnabod y gefnogaeth gan Aelodau ar draws y Siambr a hefyd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant am eu sesiwn friffio ragorol ar gyfer y ddadl heddiw.

Mae angen llais ar fabanod a'u rhieni yng Nghymru, nawr yn fwy nag erioed. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi clywed llawer iawn am yr anawsterau sy'n wynebu gwahanol ddiwydiannau ac effaith COVID ar ein heconomi, ac eto nid oes digon wedi'i ddweud am y gwaith pwysicaf a mwyaf anodd y bydd unrhyw un ohonom yn ei wneud byth, sef bod yn rhiant da. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi clywed mwy am alcohol nag a glywsom am fabanod. Ydy, mae hyn yn anodd i bawb, ond gadewch inni gael ein blaenoriaethau'n iawn, oherwydd yr hyn y bydd y ddadl heddiw'n ei ddangos yw bod bywyd i'r mwyafrif llethol o rieni newydd a darpar rieni wedi mynd yn llawer anoddach.

Mae'r ymchwil gynyddol i ofal amenedigol yn ystod y pandemig yn llwm ac yn peri pryder mawr. Mae lleisiau mamau newydd yn arbennig yn canu larymau. Rydym yn clywed straeon am orbryder, ynysigrwydd a rhwystrau newydd i ofal a chymorth priodol. Ydy, mae'r pandemig wedi creu heriau newydd a digynsail, ond mae hefyd wedi taflu goleuni ar y craciau a oedd eisoes yn bodoli mewn cymdeithas.

Mae hynny i'w weld gliriaf yn y ffordd rydym yn methu blaenoriaethu babanod wrth wneud penderfyniadau. Nid oes modd esbonio hyn, o ystyried bod ein dyfodol yn dibynnu ar y rhai a ddaw i'r byd heddiw ac yfory; nid oes modd ei esbonio o ystyried faint rydym yn ei wybod am bwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn; nid oes modd ei esbonio o ystyried faint rydym yn ei wybod am effaith iechyd meddwl rhieni ar les babanod.

Cyflawnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad mawr i iechyd meddwl amenedigol yn 2017. Clywsom dro ar ôl tro gan dystion am bwysigrwydd cymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol. Fel y dywedodd Dr Witcombe-Hayes o'r NSPCC a Chynghrair Iechyd Meddwl Mamau wrth y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:

Credwn fod y dechrau gorau hwn mewn bywyd mor bwysig oherwydd gwyddom fod y 1,000 diwrnod cyntaf yn hanfodol ar gyfer datblygiad plant. Felly, mae ein profiadau cynnar yn effeithio ar ddatblygiad strwythur yr ymennydd, sy'n darparu'r sylfaen ar gyfer ein holl ddysgu, ymddygiad ac iechyd yn y dyfodol. Yn union fel y mae sylfaen wan yn peryglu ansawdd a chryfder tŷ, gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gynnar mewn bywyd a methu diwallu anghenion plentyn nawr amharu ar strwythur yr ymennydd, gydag effeithiau negyddol sy'n para ymhell i mewn i fywyd fel oedolyn.

Ni yw'r genhedlaeth gyntaf o ddeddfwyr sydd â'r wybodaeth hon. Mae potensial enfawr i Lywodraethau wneud gwahaniaeth gwirioneddol yma i fynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu heddiw ac y byddant yn eu hwynebu yfory ac ymhen 20 mlynedd, ac eto gwyddom fod bylchau sylweddol eisoes cyn y pandemig mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, er gwaethaf buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda byrddau iechyd yn methu cyrraedd safonau amenedigol, diffyg unedau mamau a babanod ar gyfer teuluoedd sydd angen cymorth arbenigol i gleifion mewnol, a bylchau sylweddol mewn timau'n arbenigo ar y berthynas rhwng rhieni a babanod ledled Cymru. Gadewch inni beidio ag anghofio mai hunanladdiad yw'r prif achos marwolaeth o hyd ymhlith mamau yn y flwyddyn gyntaf o fywyd babi.

Felly, dyma'r seilwaith amenedigol a oedd gennym ar ddechrau'r pandemig, ac erbyn hyn mae pethau hyd yn oed yn anoddach i lawer. Mae dwy ran o dair o ymatebwyr Cymru i'r adroddiad 'Babies in Lockdown' yn dweud mai iechyd meddwl rhieni oedd eu prif bryder yn ystod y cyfyngiadau symud, ac eto dim ond chwarter a ddywedodd eu bod yn hyderus y gallent ddod o hyd i gymorth pe bai ei angen arnynt. Yn ôl astudiaeth Born in Wales, adroddodd y rhan fwyaf o fenywod am brofiad negyddol o feichiogrwydd, gan deimlo'n ynysig, yn unig, yn bell a heb gefnogaeth.

Gwrthodir lefel sylfaenol o urddas i rieni. Gofynnwyd i famau e-bostio lluniau i'w meddygfa o bwythau heintiedig. Mae'r rhai sy'n cael trafferth bwydo ar y fron yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar alwadau Zoom am gymorth. Mae'n anochel fod canlyniadau i'r pwysau hwn.

Un o'r prif ffynonellau straen a phryder i famau beichiog oedd pryder ynglŷn ag a gâi eu partneriaid fod yn bresennol pan fyddent yn esgor, felly, yn sicr mae cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ar lacio cyfyngiadau ar ymweld i'w groesawu. Mae'r hyblygrwydd i fyrddau iechyd wneud penderfyniadau ar sail eu hamgylchiadau yn bendant yn gwneud synnwyr, ond gallai dull o'r fath hefyd arwain at anghydraddoldebau i rieni mewn gwahanol rannau o Gymru, a byddai'n ddefnyddiol gwybod gan y Gweinidog sut y caiff hyn ei fonitro a pha drefniadau sydd ar waith ar gyfer rhannu arferion gorau. Byddai hefyd yn ddefnyddiol rhoi arweiniad clir i rieni babanod cynamserol neu sâl, yn unol â'r ymchwil a'r argymhellion a gyflwynwyd gan Bliss. Mae'r cyfyngiadau presennol wedi cael effaith ddinistriol ar allu gormod o rieni i sefydlu cwlwm agosrwydd gyda'u babanod.

Mae'r dystiolaeth yn glir—mae'r pandemig, y cyfyngiadau symud a'r mesurau cadw pellter cymdeithasol dilynol wedi cael effaith anghymesur ar y rhai sy'n feichiog, yn rhoi genedigaeth, neu gartref gyda baban neu blentyn bach. Ac unwaith eto, mae'r effaith fwyaf wedi bod ar y rhai sydd eisoes yn byw'r bywydau anoddaf—coronafeirws yn dyfnhau anfantais unwaith eto. Mae'r rhai mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn dangos lefelau uwch o unigrwydd yn gyson ac maent yn llai tebygol o fod wedi gweld cynnydd mewn cymorth cymunedol.

Rwyf wedi gweld y llythyr gan y prif swyddog nyrsio at y comisiynydd plant, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch rôl ymwelwyr iechyd, ond mae angen gwneud mwy. Mae babanod wedi bod yn anweledig i raddau helaeth o ganlyniad i'r pandemig, a dylai hynny fod yn ofid i bob un ohonom. Heb gysylltiad anffurfiol â ffrindiau a theulu, grwpiau galw heibio, a llai o gysylltiadau ag ymwelwyr iechyd, mae perygl gwirioneddol nad oes neb yn gwybod pa deuluoedd sy'n cael trafferth. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn gallu ymweld wyneb yn wyneb ym mhob achos lle mae'n ddiogel ac yn bosibl iddynt wneud hynny. Mae cymaint yn cael ei golli dros y ffôn neu hyd yn oed mewn apwyntiadau rhithwir. Clywn dro ar ôl tro am yr anallu i nodi pwy sy'n cael trafferth heb y cyswllt dynol hwnnw.

Er mwyn deall yr hyn sydd eisoes wedi'i golli a sut y mae angen inni ymateb, mae'n hanfodol fod y Llywodraeth yn cyflwyno data cadarn am nifer yr ymweliadau sy'n digwydd, faint sy'n cael eu colli a sut y mae'r archwiliadau hynny'n cael eu cynnal. Mewn ateb diweddar yn Nhŷ'r Cyffredin, nid oedd un o Weinidogion iechyd y DU yn gallu rhoi sicrwydd na fyddai ymwelwyr iechyd yn cael eu hadleoli i waith ar ddarparu brechlynnau. Gobeithio y gall y Gweinidog roi sicrwydd i rieni Cymru heddiw na fydd ymwelwyr iechyd yn cael eu hadleoli yng Nghymru. Yn hytrach na symud adnoddau o ofal amenedigol, mae arnom angen mesurau brys i roi cefnogaeth well i ddarpar rieni a rhieni newydd a'u babanod.

Mae angen i ni flaenoriaethu anghenion babanod yn awr wrth wneud penderfyniadau am ymateb i COVID-19 a'r adferiad yn ei sgil, sicrhau bod staff allweddol a gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn cael eu diogelu rhag cael eu hadleoli, rhoi arweiniad clir ar sut y gellir cynnal apwyntiadau ymwelwyr iechyd wyneb yn wyneb yn ddiogel ac yn effeithiol, a darparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw o ganlyniad i COVID-19. Mae'r dewisiadau a wnawn heddiw ynglŷn â sut rydym yn cefnogi rhieni a babanod drwy'r pandemig yn ddewisiadau y byddwn yn byw gyda hwy am ddegawdau i ddod. Bydd methiant i roi cefnogaeth ac adnoddau priodol i iechyd amenedigol yn bwrw cysgod hir dros Gymru. Diolch yn fawr.