Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Cyn i mi barhau, hoffwn ddiolch yn gyflym i Sarah Rees, sy'n llenwi ar fy rhan yn ystod fy nghyfnod mamolaeth a fy rheolwr cymunedol, am ymgyrchu mor ddiwyd ac angerddol ar y mater hwn ar fy rhan. Ni allwn fod wedi gobeithio cael rhywun gwell i wneud gwaith AS yn fy lle. Pan roddais enedigaeth yn ystod y pandemig hwn, rwy'n rhyfeddu sut y llwyddais i, a miloedd yn yr un sefyllfa â mi, i ymdopi. Nid yw'n cael ei ddweud ddigon yn y Siambr hon nac yn unman arall yn y byd, o ran hynny: fenywod, rwy'n canmol eich dewrder, am gyflawni un o brofiadau mwyaf, os nad y mwyaf, gwerth chweil, ond gwirioneddol boenus, eich bywyd, a hynny ar eich pen eich hunain bron ac wedi eich ynysu oddi wrth anwyliaid yn ystod y profiad penodol hwn.
Rwy'n sylweddoli bod heriau i'r Llywodraeth hon yn ystod y cyfnod hwn. Rwyf wedi bod yn gwylio'r cyfan o'r ymylon, ac rwy'n sylweddoli nad yw'n hawdd cydbwyso'r hyn sydd ei angen ar bobl a'r hyn y mae'n rhaid i gymdeithas ei wneud i fynd i'r afael â lledaeniad y feirws hwn. Ond aeth pobl i fwytai i gael bwyd gyda ffrindiau, tra bod menywod yn yr ysbyty yn eistedd am bedwar diwrnod, fel y gwneuthum innau, yn aros iddynt brysuro'r geni, gan frwydro drwy boenau geni aruthrol hyd nes i esgor 'gweithredol' ddechrau a bu'n rhaid i wŷr ruthro o'u cartrefi, gan weddïo na fyddent yn colli genedigaeth eu plentyn. Ond aeth pobl i dafarndai ac eistedd o gwmpas yn sgwrsio, tra dywedwyd wrth bartneriaid geni, ar ôl i wraig gael llawdriniaeth fawr, llawdriniaeth gesaraidd, marw-enedigaeth, fod yn rhaid iddynt ei gadael awr yn unig ar ôl iddi roi genedigaeth. Y fenyw ar ei phen ei hun yn yr ysbyty yn erthylu, profiad yr awdur Caroline Criado-Perez fel y dywedodd wrthym heddiw, a chael ei gadael i alaru ar ei phen ei hun. Eraill wedi'u llethu, fel fi, wrth orfod bwydo a newid a gofalu am fabi newydd, pan ydych yn cael trafferth symud yn rhwydd, a phan fyddwch yn gwneud hynny, mae gwaed yn llifo allan ohonoch fel rhaeadr, rydych yn rhuthro i'r toiled ynghlwm wrth gathetr tra bod eich babi'n sgrechian ac yn sgrechian i chi ddychwelyd. Ond aeth pobl i siopa, tra bod bydwragedd 'shero' wedi'u gorweithio, mamau'n gwasgu'r botwm coch wrth ochr eu gwely, yn daer eisiau cymorth, yn crio'n dawel wrth i'w babanod grio yn y nos, mamau'n helpu ei gilydd mewn ysbryd cymunedol na allwn ond breuddwydio ei weld yn parhau y tu hwnt i'r argyfwng COVID hwn. Ond roedd pobl yn mynychu campfeydd, tra bod partneriaid gartref, yn aros yn flinedig am yr alwad WhatsApp i weld eu plentyn newydd-anedig, yn methu helpu mam, gwraig neu bartner newydd sy'n fregus yn feddyliol—mae'n ddrwg gennyf. Tadau yn methu creu cwlwm agosrwydd yn ystod y camau cyntaf hollbwysig hynny—mae'n ddrwg gennyf—yn methu rhoi eu breichiau o amgylch eu hanwyliaid pan fo baban yn cael ei golli. Dyna realiti geni yn ystod COVID.
Wrth gwrs, mae'r canllawiau wedi nodi drwy gydol cyfnod y pandemig y gall menywod gael partneriaid geni mewn llawer o amgylchiadau penodol, ond gan eu bod yn agored i'w dehongliadau eu hunain, mae byrddau iechyd unigol, ar y cyfan, wedi gwahardd tadau, partneriaid geni a theulu ehangach rhag bod yn bresennol ar adegau allweddol yn ystod y beichiogrwydd a genedigaeth, ac fe wnaeth rhai tadau a gysylltodd â mi golli'r enedigaeth bron yn gyfan gwbl. Mewn cyhoeddiadau diweddar, llaciodd Llywodraeth Cymru eu canllawiau a'i gwneud yn gliriach y gall menywod gael partneriaid geni a chefnogaeth, ond mae gennym dystiolaeth eisoes nad yw hyn yn cael ei weithredu gan fyrddau iechyd o hyd. Ysgrifennodd rhywun at fy swyddfa yr wythnos hon yn amlinellu ei phrofiad diweddar iawn yn Betsi Cadwaladr yn y cyfnod ers i Lywodraeth Cymru ddiweddaru'r canllawiau ar ddiwedd mis Tachwedd. Mae ei phrofiad yn rhywbeth rydym i gyd yn gyfarwydd ag ef. Mae'n byw yn un o'r ardaloedd sydd â'r cyfraddau trosglwyddo isaf yn y DU, ac roedd yn dal i fod yn ddarostyngedig i'r rheol fympwyol fod yn rhaid i geg y groth agor 4 cm cyn y caniateid iddi gael partner geni, ond dim ond am awr ar ôl iddi roi genedigaeth, wedyn roedd ar ei phen ei hun. Mae hyn yn cynnwys menywod sy'n cael llawdriniaethau cesaraidd, ac ni chafwyd unrhyw ymweliadau o gwbl ar ôl yr enedigaeth.
Yn Lloegr, yn haen 3, a deallaf mai honno yw'r haen fwyaf difrifol, caniateir partneriaid geni a thadau drwy gydol y broses o esgor ac am 12 awr wedyn. Heb ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar hyn, mae'n amlwg y bydd menywod yn dal i gael eu gadael ar eu pen eu hunain heb gefnogaeth briodol.
Clywais y Gweinidog yn sôn hefyd am esgor gweithredol yn ei gyhoeddiad diweddaraf, wel, nid yw hynny wedi newid. Caniateir i ddynion neu bartneriaid ddod i mewn yn ystod esgor gweithredol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod partneriaid geni yn cael bod yn bresennol am fwy na hynny fel nad yw menywod yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain, ac fel nad ydynt yn gorfod dioddef y boen ar eu pen eu hunain, drwy'r dydd, bob dydd.
Dylem hefyd ystyried beth sy'n digwydd pan fydd menywod yn gadael yr ysbyty. Mewn ymchwil a gyflawnwyd gan fy swyddfa, fel y crybwyllodd Lynne Neagle yn garedig iawn, ni chafodd 60 y cant unrhyw archwiliadau ôl-enedigol, ac roedd chwarter eisiau cymorth iechyd meddwl amenedigol, gyda'r rhan fwyaf yn teimlo nad oeddent wedi cael unrhyw gymorth iechyd meddwl amenedigol o gwbl.
Mewn unrhyw archwiliad a fynychais gyda fy mab, Idris, nid ydynt erioed wedi gofyn sut ydw i. Maent yn gofyn sut mae Idris, sy'n bwysig iawn, ond nid ydynt erioed wedi gofyn i mi sut ydw i. Hefyd, y newyddion diweddaraf ar hyn, mae'r arolwg a wnaethom yn y cyfnod cyn y ddadl yr wythnos hon yn dangos bod 85 y cant o'r rhai a gysylltodd â ni wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi effeithio'n ddifrifol arnynt oherwydd y diffyg cyswllt â'u hymwelydd iechyd.
Ac nid yw hwn yn fater sy'n ymwneud â menywod yn unig. Mae'n rhaid i ni ystyried sut y mae hyn oll yn effeithio ar dadau a phartneriaid newydd. Gallai amddifadu tadau o brofiadau bywyd fod yn negyddol iawn i iechyd meddwl rhywun, felly rydym wedi gweithio gydag ymgyrchwyr fel Mark Williams yn fy rhanbarth, sy'n ymgyrchu'n frwd er mwyn tynnu sylw at iechyd meddwl tadau yn ehangach.
Hoffwn gloi drwy sôn am rywbeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i honni droeon yn y gorffennol, fel y dywedais ar y dechrau: bod yn Llywodraeth ffeministaidd. Mae hwnnw'n nod canmoladwy, ond mae'n amlwg i mi, a bydd yn amlwg i eraill, fod camau gweithredu neu ddiffyg camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn dinistrio'r honiad hwnnw. Mae menywod a rhieni, yn enwedig llawer o rieni am y tro cyntaf, wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth Cymru drwy'r flwyddyn am yr effaith negyddol y mae'r rheolau hyn wedi'i chael arnynt, ond yn ofer. Rydym bellach wedi diweddaru canllawiau gan Lywodraeth Cymru, ond eto ni welwn ddigon o symud gan fyrddau iechyd unigol i wneud y newidiadau angenrheidiol hynny. Rydym angen arweiniad ac egni i ddwyn y byrddau iechyd hynny i gyfrif er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud yr asesiadau risg hynny, ie, nid ydym eisiau rhoi unrhyw un mewn perygl, ond eu bod yn gwneud hynny'n ddiwyd a newid y rheolau fel y gallwn sicrhau bod pawb yn ddiogel a sicrhau bod bywydau'r babanod hynny'n dechrau mewn ffordd hapus ac adeiladol.
Er ein bod yn symud tuag at gyfnod lle gall cynifer o bobl â phosibl gael y brechlyn, gobeithio, efallai na fydd y sefyllfa hon yn yr ysbyty'n newid am gyfnod hir eto, ac mae angen iddi newid nawr. Rwy'n gobeithio'n fawr fod y Gweinidog a'r Llywodraeth wedi clywed llais fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig ar y mater hwn, fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, sydd wedi gwneud yr un peth, ac eraill yn y Siambr hon sydd wedi clywed straeon gan eich etholwyr. Gwrandewch arnynt, Vaughan Gething, fel Gweinidog, a newidiwch y rheolau fel na fydd gennym argyfwng iechyd meddwl ymysg ein rhieni mewn misoedd neu flynyddoedd i ddod oherwydd y ffordd y cawsant eu trin yn ystod y pandemig hwn. Diolch yn fawr iawn.