Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Ein ffocws drwy gydol y pandemig fu cefnogi dull hyblyg ac ymarferol o helpu plant a theuluoedd, ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed lle nad yw teuluoedd wedi teimlo bod y cymorth hwnnw wedi'u cyrraedd. Rydym yn ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd ac yn darparu cymaint o gymorth ag sy'n bosibl o fewn y cyfyngiadau presennol rydym yn byw gyda hwy, ac wrth wraidd hyn mae'r ddarpariaeth gyffredinol o wasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd. Rwy'n dal i fod yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gafodd fy nheulu fy hun gan staff mamolaeth ac ymwelwyr iechyd pan grëwyd ein teulu ni.
Mae angen inni sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir ar gael i gefnogi plant a'u teuluoedd. Yn ystod y pandemig, mae gwasanaethau mamolaeth bob amser wedi'u dynodi'n wasanaethau hanfodol ac ni chafodd unrhyw staff eu hadleoli. Felly, mae bydwragedd ac obstetregwyr wedi parhau i ddarparu'r cymorth emosiynol a chlinigol y bydd ei angen ar bob menyw, gan ddefnyddio cyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhithwir. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd rhoi cyfle i rieni greu cwlwm agosrwydd gyda'u baban a sicrhau bod y fam yn cael ei chefnogi drwy ei beichiogrwydd a'r enedigaeth.
Mae'r feirws wedi ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd am bartneriaid yn mynychu ysbytai. Cyhoeddwyd canllawiau diwygiedig, a nodaf fod Lynne Neagle wedi'u croesawu, ar gyfer ymweliadau ag ysbytai ddiwedd mis Tachwedd. Felly, bydd ymweld â gwasanaethau mamolaeth bellach yn seiliedig ar ddull asesu risg. Bydd hwnnw'n ystyried ffactorau lleol ac amgylcheddol megis maint ystafelloedd, y gallu i gadw pellter cymdeithasol ac atal a rheoli heintiau er mwyn galluogi partneriaid i fod gyda menywod beichiog a mamau newydd yn ddiogel. Bydd pob menyw yn cael ei chefnogi gan o leiaf un partner i fod gyda hi yn ystod yr esgor, yr enedigaeth a'r cyfnod yn syth ar ôl geni, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Mae'r canllawiau ymweld diweddar yn dal i gyfyngu ymweliadau babanod newydd-anedig i un rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr wrth y gwely ar y tro. Mae hynny'n hanfodol er mwyn cadw pellter corfforol mewn mannau newyddenedigol, a lleihau'r risg o haint ac i gadw'r babanod hyn sy'n agored i niwed yn ddiogel. Gellir ystyried amgylchiadau unigol lle mae'r manteision i lesiant y claf neu'r ymwelydd yn drech na'r risgiau rheoli heintiau, ond mae'r risgiau hynny'n real iawn, fel y gwyddom i gyd. Pan fyddant gartref, mae bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn parhau i ddarparu cymorth parhaus a byddant yn gweithio gyda menywod i asesu eu hanghenion yn unigol. Mae bwydo ar y fron yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth allweddol ac mae cymorth wedi parhau mewn gwahanol ffyrdd yn ystod y pandemig. Roeddwn yn falch o weld bod y data bwydo ar y fron a gyhoeddwyd ddiwedd mis Tachwedd yn dangos bod cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer y chwarter wedi cynyddu ar enedigaeth, 10 diwrnod, chwe wythnos a chwe mis oed.
Mae gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn parhau i ddarparu rhaglen gymorth gyffredinol drwy raglen Plant Iach Cymru. Gwnaethom gyhoeddi canllawiau penodol i bob bwrdd iechyd ym mis Mawrth mewn ymateb i'r amgylchiadau digynsail hyn. Roedd y canllawiau ar y ddarpariaeth yn cynghori gostyngiad dros dro yn nifer y cysylltiadau. Ym mis Awst, cawsant eu diweddaru, gyda'r disgwyliad y bydd pob bwrdd iechyd yn cynnig yr ystod lawn o gysylltiadau Plant Iach Cymru yn ddieithriad. Ar anterth y don gyntaf, roedd angen i rai byrddau iechyd adleoli ymwelwyr iechyd â sgiliau arbenigol i ardaloedd acíwt. Rydym wedi cael sicrwydd bod yr ymwelwyr iechyd hyn bellach wedi dychwelyd i'w rolau, a disgwyliwn i fyrddau iechyd gynllunio'r gweithlu i barhau i fodloni gofynion rhaglen Plant Iach Cymru.
Yn ystod y cyfyngiadau lleol mwy diweddar a'r cyfnod atal byr, parhaodd y gwasanaethau ymwelwyr iechyd i gefnogi teuluoedd a chynyddu cysylltiadau â hwy. Maent yn dal i weithio'n agos gyda theuluoedd ac yn darparu cyswllt wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl. Ond os nad yw cyswllt wyneb yn wyneb yn ymarferol—ac mae nifer o deuluoedd wedi dymuno peidio â chael cyswllt wyneb yn wyneb—maent yn gallu cynnig cyswllt rhithwir gan ddefnyddio Attend Anywhere i drefnu apwyntiadau sy'n addas i'r rhieni. Drwy gydol y pandemig, dyma un o'r pwyntiau y mae'r Aelodau wedi'i godi droeon. Mae fy swyddogion, dan arweiniad y brif nyrs, wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr gwasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o bethau ac i roi sicrwydd ynglŷn â darparu gwasanaethau. Mae hynny wedi rhoi cyfle i rannu dysg a dull 'unwaith i Gymru' o ddod o hyd i atebion. Felly, rydym yn dal i anelu ar gael arweinyddiaeth broffesiynol uniongyrchol a rhannu dysg a phrofiad ledled y wlad.
Mae Dechrau'n Deg yn parhau i gael ei ddarparu, ac rwy'n hynod falch, fel cyn Weinidog a oedd yn gyfrifol am Dechrau'n Deg. Cadarnhaodd y canllawiau a gyhoeddwyd gennym ar 21 Hydref y dylid darparu'r ystod lawn o raglen Plant Iach Cymru a chyd-destun estynedig Dechrau'n Deg. Ceir enghreifftiau gwych o blant a theuluoedd yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd arloesol, gan gynnwys cymorth ar-lein, cyrsiau rhyngweithiol i rieni a phecynnau adnoddau plant a theuluoedd.
Un o'r datblygiadau arloesol allweddol yn ystod y pandemig hwn fu'r defnydd o dechnoleg rithwir. Gwyddom nad yw rhai byrddau iechyd wedi cael yr offer i ddefnyddio pob rhaglen, ond mae ein swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda byrddau iechyd i nodi eu gofynion fel y gallant gefnogi menywod a'u teuluoedd yn iawn. Rwy'n cydnabod ei bod yn ddigon posibl y bydd rhieni yn teimlo'n ynysig oddi wrth deuluoedd a ffrindiau ar hyn o bryd, a gallai hynny gael effaith negyddol ar iechyd meddwl amenedigol. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, nid yn unig yn dilyn y buddsoddiad rydym wedi'i wneud yn gyson ers 2015, ond ein hymrwymiad parhaus, gan gynnwys yn ystod y pandemig hwn. Roedd yr arian a ddarparwyd gennym ar gyfer gwella gwasanaethau yn ystod y pandemig, a'r arian ychwanegol rydym wedi'i ddarparu, yn unol â'r blaenoriaethau yn ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn benodol.
Byddwn yn parhau i fonitro'r dystiolaeth sydd ar gael i ddeall effaith gynyddol COVID-19 ar iechyd meddwl. Bydd hyn yn cynnwys arolygon poblogaeth yn ogystal â gwybodaeth a ddarperir gan ein GIG. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'n harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol i ddeall yr effaith ac i gytuno sut y mae angen i ni ymateb iddi. Mae'n hanfodol bwysig, serch hynny, fod teuluoedd yn gwybod bod gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ar gael o hyd, ac na ddylent osgoi gofyn am ofal iechyd angenrheidiol. Mae ein timau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ledled Cymru yn parhau i ddangos arloesedd ac ymroddiad, ac maent wedi symud i amrywiaeth o wahanol ffyrdd o gefnogi teuluoedd lle bo hynny'n bosibl. Rwy'n deall pa mor bwysig y gall cymorth gan gymheiriaid fod i rieni newydd, a bod grwpiau rhieni, babanod a phlant bach yn gallu helpu i leihau ynysigrwydd, a chefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol rhieni. Mae'r rheoliadau coronafeirws presennol yn cadarnhau y gellir cynnal y sesiynau hyn. Maent yn ddarostyngedig i'r un gofynion sy'n berthnasol i weithgareddau sy'n cael eu trefnu ar gyfer datblygiad neu lesiant plant. Mae'r canllawiau wedi'u cyhoeddi ac maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Fel y nododd Lynne Neagle, mae COVID-19 wedi, ac yn dal i gael effaith negyddol ar fywydau ein teuluoedd mwyaf difreintiedig ac agored i niwed, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, lle mae rhai gwasanaethau wedi'u rhewi neu eu lleihau oherwydd y pandemig. Sefydlwyd y gronfa datblygiad plant i ddarparu cymorth ychwanegol i blant a theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y cyfyngiadau symud, er mwyn mynd i'r afael â phryderon ynglŷn ag oedi datblygiadol mewn meysydd allweddol megis lleferydd, iaith, cyfathrebu, sgiliau echddygol a datblygiad personol a chymdeithasol.
Rwy'n cydnabod bod yn rhaid inni barhau i ddatblygu cynnig cynhwysfawr ar gyfer y blynyddoedd cynnar, symleiddio'r dirwedd bresennol, a darparu system blynyddoedd cynnar wirioneddol integredig. Rhaid inni wneud hynny drwy ystyried y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effaith COVID-19 ar blant, a gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod plant a theuluoedd yn parhau i gael cymorth dros y cyfnod eithriadol rydym yn parhau i fyw drwyddo. Gwyddom nad ydym mewn sefyllfa berffaith yn awr, ac mae llawer mwy inni ei ddysgu o brofiadau bywyd rhieni. Felly, nid wyf yn bychanu unrhyw un o'r profiadau y mae Aelodau wedi tynnu sylw atynt yn y ddadl hon; mae'n rhaid inni barhau i ddysgu, datblygu a gwella gyda'n gilydd. Diolch, Lywydd.